Email: customer.care@merthyr.gov.uk    Tel: 01685 725000
Address: Merthyr Tydfil CBC, Civic Centre, Castle Street, Merthyr Tydfil, United Kingdom CF47 8AN

Nid oes gan ddyn nad yw’n darllen llyfrau da unrhyw fantais dros y dyn nad yw’n gallu eu darllen

 

 

Mark Twain

 

 

 

Ehangwch eich gorwelion yn eich llyfrgell leol

 

Dywedodd Alun Pugh AC, Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon:  “Mae’r wefan hon yn drysorfa o wybodaeth ac yn adnodd ardderchog sy’n rhad ac am ddim i bawb.  O blant sy’n chwilio am help i wneud gwaith cartref i bobl sy’n chwilio am waith.  Rwyf yn annog pawb [YN EICH ARDAL LEOL] i sicrhau eu bod yn ymuno â’u llyfrgell leol fel y gallant fanteisio ar y gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymroddedig i greu llyfrgelloedd sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif ac mae wedi buddsoddi £2 filiwn yn llyfrgelloedd Cymru i wella safonau a datblygu prosiectau diddorol a dyfeisgar fel hwn i wneud llyfrgelloedd yn berthnasol i bobl heddiw.”

 http://llyfrgell.cymru.org/

 

 

link to library catalogue   Mae modd cyrchu catalog y Llyfgell bellach, diolch i raglen o'r enw Talis Prism.

 

Mae rhaid i chi ddo i'r Llyfgell i gael rhif personol (PIN) arbennig i ddefnyddio'r nodweddion hyn.

 

 

Mae Llyfrgell Gyhoeddus Merthyr Tudful yn bodoli i ddiwallu anghenion llyfrgell leol ac anghenion gwybodaeth pawb sy’n byw neu’n gweithio yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae’n gwasanaethau yn mynegi’n dyletswydd i wasanaethu, adlewyrchu ac ysgogi’n cymuned.

Rydym yn credu mai’n hymagwedd “bach a chyfeillgar” yw ein cryfder unigol mwyaf a’i bod yn caniatáu i ni fod yn hyblyg ac yn ymatebol i anghenion lleol – sef eich anghenion chi.

Rydym yn dal yn falch bod y panel a ddyfarnodd Nod Siarter genedlaethol i ni ym 1995 wedi pwysleisio’r ffaith ein bod yn:

wasanaeth llyfrgell cymunedol da sydd wedi ymrwymo i ymgynghori â’i gwsmeriaid ac i gyrraedd lefelau uchel iawn o ran bodlonrwydd ein defnyddwyr a’n hymrwymiad i ddatblygiad gwasanaeth parhaus.

Rydym yn dal i gyrraedd y safonau hynny ac yn gallu gwneud ein gwaith yn llawer mwy effeithiol ers cyflwyno’r system gyfrifiadurol yn 2004.

Sut bynnag yr ydym yn moderneiddio, ein prif amcan o hyd yw

          Hysbysu – Addysgu -  Difyrru - Symbylu.

Mae tudalennau gwe hyn y llyfrgell yn rhoi mwy o fanylion am ystod o wasanaethau sy’n gallu bod o gymorth i chi drwy gydol eich bywyd.

Mae’ch sylwadau yn bwysig i ni

Fel rhan o’n gwaith i foderneiddio ac adfywio gwasanaethau llyfrgeddol, rydym am i chi gysylltu â ni er mwyn:

·         Dweud eich barn ar unrhyw agwedd ar y gwasanaeth llyfrgell.

·         Cael manylion am ddewisiadau i wella’r ffyrdd y gall llyfrgelloedd eich gwasnaethau chi a’ch cymuned.

·         Dweud wrthym pam yr ydych yn hoffi llyfr, pwnc neu awdur neu er mwyn rhoi cynnig ar rywbeth newydd.

·         Dweud eich bod am wneud mwy â hanes lleol.

  Anfonwch neges e-bost at

library.services@merthyr.gov.uk

 neu ysgrifennwch atom ni  yn y cyfeiriad canlynol (nid oes angen stamp)

Gwasanaeth Llyfrgell Cyhoeddus Merthyr Tudful, Rhadbost, Y Llyfrgell Ganolog, Y Stryd Fawr, Merthyr Tudful, CF47 8AF.

Anfonir ateb personol i bob ymholiad, a hynny o fewn dau ddiwrnod gwaith fel arfer...