Email: customer.care@merthyr.gov.uk    Tel: 01685 725000
Address: Merthyr Tydfil CBC, Civic Centre, Castle Street, Merthyr Tydfil, United Kingdom CF47 8AN

Rate this page

Twristiaeth & Hamdden

Mae'r wlad brydferth a dramatig o gwmpas Merthyr yn lleoliad delfrydol ar gyfer pob math o weithgareddau ac atyniadau. Gall y teulu cyfan fwynhau dyddiau pleserus ar y bryniau a choedwigoedd lleol, mewn safleoedd megis Canolfan Gadwraeth Taf Fechan, Parc Coetir Gethin, Fforest Garwnant neu atyniadau eraill yn cynnwys: Castell ac Oriel Cyfarthfa; bwthyn Joseph Parry; Rheilffordd Mynydd Brycheiniog neu Ganolfan Ddringo Ryngwladol Taf Bargoed.

Taff Trail Sailing

Bydd cerddwyr yn canfod dewis mawr o lwybrau hamddenol a heriol yn cynnwys Llwybr Taf, sy'n cysylltu'r brifddinas â hen dref farchnad Aberhonddu.

Mae'r Llwybr yn pasio drwy rannau prydferthaf cwm Taf ac mae'n cynnwys nifer o nodweddion diddorol megis Tramffordd Penydarren a gludodd beiriant enwog Trevithick i lawr i Abercynon yn 1804 - y daith gyntaf yn y byd gan injan ager.

O fewn Merthyr ei hun, mae amryw lwybrau treftadaeth yn cysylltu safleoedd hanesyddol a diddorol y dref. Mae eu hyd yn amrywio er mwyn cyfarfod â gwahanol ofynion. Yn ogystal, mae Cymdeithas Cerddwyr Merthyr Tudful yn trefnu rhaglen o deithiau cerdded drwy'r ardal.

Mae dewis eang o adnoddau chwaraeon yn yr ardal, yn cynnwys pysgota, merlota, hwylio, beicio, golff a bwrdd hwylio ynghyd â chanolfannau chwaraeon a hamdden/cymunedol o dan do.

http://www.lleoeddactifcymru.org.uk/

Cysylltwch â Ni

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy un o’r dulliau canlynol:

Email Icon
tic@merthyr.gov.uk
Telephone Icon
01685 379884