Email: customer.care@merthyr.gov.uk    Tel: 01685 725000
Address: Merthyr Tydfil CBC, Civic Centre, Castle Street, Merthyr Tydfil, United Kingdom CF47 8AN

Newyddion Tai Diweddaraf

SICRHAU BOD EICH RHENT YN DOD YN GYNTAF

Nid oes angen i ddeilio ag ôl-ddyledion fynd allan o reolaeth – oni bai i chi adael iddynt fod!

Mae ein staff cyngor tai yma i helpu datrys y natur aml gymhleth o ddyledion amryfal. Byddwn yn gwneud ein gorau i’ch helpu i drefnu trefniadau talu a allwch gwrdd â nhw.

Ond os nad ydych yn talu eich rhent mewn pryd, neu os ydych yn anwybyddu trefniadau talu, byddwch yn cael eich troi allan. Cofiwch fod gan ôl-ddyledion rhent ganlyniadau difrifol – nid yw’n gêm.

Bydd tenantiaid sy’n gwrthod yn gyson i dalu eu rhent yn wynebu’r canlyniad anochel o gael eu troi allan.

Dyma’r neges rybuddio sy’n cael ei ddangos ar yr ymgyrch poster diarbed sydd wedi bod yn factor allweddol wrth leihau ôl-ddyledion rhent yn sylweddol dros y 12 mis diwethaf.

Mae’n ymddangos bod y neges wedi cael effaith ddramatig gydag ôl-ddyledion ar eu lefel isaf am dros dwy flynedd.

Ers Ebrill 2004 rydym wedi troi allan 19 o deuluoedd am wrthod delio â phroblemau taliadau rhent heb eu talu, ar ôl iddynt greu ôl-ddyledion gwerth miloedd o bunnau.

Mae’r ymgyrch poster yn un o ystod o fesurau rydym wedi’u cymryd at leihau ôl-ddyledion.

OES GENNYCH BROBLEM TAI

Os ydych yn cael problemau wrth dalu eich rhent neu ydych yn anhapus gyda phenderfyniad Budd-dâl Tai, gallwch gael cyngor, dadleuwriaeth a chynrychiolaeth cyfreithiol cyfrinachol yn rhad ac am ddim wrth Ganolfan Cynghori’r Cyhoedd a Shelter Cymru ill dwy, sy’n cael nawdd i ddarparu cyngor tai annibynnol.

Gallwch gysylltu â Chanolfan Cynghori’r Cyhoedd ar: (01685) 379997, a mae Shelter Cymru yn darparu gwasanaeth 24awr ar 0808 800 4444 neu allwch gysylltu â nhw ar (01792) 469400.

MWY O LWYDDIANT GYDAG YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL

Os ydych yn ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol, nid yn unig ydych yn mentro wynebu achosion troseddol ac ASBO ond hefyd mewn perygl o golli eich cartref '. Dyma’r neges rybuddio lem at droseddwyr dyfal wrth Robert Davies, Pennaeth Tai, yn dilyn y cais llwyddiannus at Lys Ynadon Merthyr Tudful am bumed Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y Cyngor.

Mae hyn yn dilyn ddau achos diweddar a ddaethpwyd gan y Cyngor.

Ar 7 Mehefin 2004, gwnaeth Llys Sirol Merthyr Tudful orchymyn troi allan syth yn erbyn tenant Cyngor ar ôl clywed tystiolaeth i’r tenant a’i theulu wedi ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol cyson.

Ddydd Gwener 30 Gorffennaf 2004, dyfarnwyd ASBO 3-blynedd yn Llys Ynadon Merthyr yn erbyn Shaun Marcus Williams sy’n byw yn ward Plymouth sydd yn ei atal rhag ymddwyn mewn modd sy’n achosi braw, gofid neu aflonyddu i eraill, yn arbennig i beidio â bod yn ddifrïol ar lafar at gymdogion, i beidio ag yfed alcohol yn y stryd neu gymryd sylweddau neu yrru cerbyd mewn modd bygythiol'.

Mae torri termau ASBO yn dod â dedfryd garchar uchaf o bum mlynedd am oedolyn.

‘Fel landlord cyfrifol rydym yn cymryd dull cadarn ond teg at holl adrodd ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn y ddau achos rhoddwyd pob cyfle i’r unigolion dan sylw i newid eu hymddygiad tu allan i’r llys. Fodd bynnag roedd eu penderfyniad i barhau aflonyddu eu cyd-breswylwyr a natur ddifrifol eu gweithrediadau yn golygu rydym wedi defnyddio’r mesurau priodol sydd ar gael i ddelio â’r problemau roeddent yn eu hachosi'.

Mae’r Adran Tai yn gweithio’n agos ag Heddlu De Cymru, Iechyd Cyhoeddus, Wardeniaid Diogelwch Gymunedol a Grwpiau Tenantiaid i ddifa ymddygiad gwrthgymdeithasol.

YMGYRCH Y CERDYN COCH

Ydych chi’n goddef cymdogion gwrthgymdeithasol? Os felly yna ein helpu i’ch helpu.  Rydym am ddifa ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond rydym angen i breswylwyr ei hysbysu, felly dangoswch y CERDYN COCH iddynt a ffoniwch yr Adran Tai nawr ar [01685] 725248.

CYNHADLEDD TENANTIAID FLYNYDDOL

Mae’r Gynhadledd nesaf yn cymryd lle Ddydd Iau 4 Tachwedd 2004 rhwng 10.00yb a 2.30yp yn Strikers, Parc Penydarren, Merthyr Tudful.

Bydd y gynhadledd yn ateb ymddygiad gwrthgymdeithasol, atgyweiriadau a chynnal a chyfranogiad tenantiaid, yn ogystal â ymweliadau i brojectau cymunedol.

Bydd cludiant a bwffe am ddim yn cael eu darparu ar y diwrnod.

Er mwyn osgoi siom archebwch nawr, wrth gysylltu â Claire Little ar (01685) 721331

YN FUAN... DEBYDAU UNIONGYRCHOL

Rydym yn bob amser yn edrych ar ffyrdd o wella’r gwasanaeth a ddarparir i’n cwsmeriaid, a rydym wrthi’n cyflwyno Debydau Uniongyrchol fel ffordd arall o Dalu Rhent.

Os oes gennych ddiddordeb o dalu eich rhent trwy’r dull hwn, cysylltwch â’r Adran Rhent ar unrhyw un o’r rhifau ffôn canlynol:

(01685) 725119 neu;
(01685) 726249 neu;
(01685)  725251

CANOLFAN GYSWLLT ATGYWEIRIADAU

Os ydych yn angen atgyweiriad, mae gennym rif ffôn arbennig erbyn hyn.  Cysylltwch â Chanolfan Gyswllt Atgyweiriadau ar: [01685] 725493.

LLINELL ATGYWEIRIO I DENANTIAID

Yn ein cais parhaol i wella’r gwasanaeth, mae rhif rhadffon i atgyweiriadau wedi’i sefydlu: 0800 0857843

APWYNTIADAU AR GYFER ATGYWEIRIADAU

Mae apwyntiadau ar gael erbyn hyn ar gyfer unrhyw waith difrys.  I drefnu apwyntiad, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt Atgyweiriadau ar (01685) 725493

BUDDSODDWYR MEWN POBL

Ar 1 Ebrill 2004 derbyniwyd cadarnhad i’r Adran Tai wedi cyflawni’r meini prawf a fynnir ac felly wedi’i gwobrwyo gyda statws Buddsoddwyr mewn Pobl.

Beth yw?

Mae’r safon IiP yn rhoi fframwaith am wella perfformiad o fewn sefydliad trwy fuddsoddi a datblygu ein staff.

Sut fydd yn eich helpu?

Mae buddsoddi mewn pobl yn ganolog at helpu gweithwyr i ganolbwyntio ar gwsmeriaid, sy’n golygu gwasanaeth gwell i chi.

MEITHRINFEYDD TAI

Mae’r Swyddogion Tai Rhanbarthol yn cynnal meithrinfeydd yn yr ardaloedd canlynol:

Lleoliad: Canolfan Cymuned Trelewis

  • Amser: Rhwng 10.00y.b. a 11.00y.b.
  • Dyddiadau: Gwener 6 Awst 2004
  • Gwener 3 Medi 2004
  • Gwener 1 Hydref 2004

Lleoliad: Swyddfa Warden Cymunedol Penydarren, Talbot Square

  • Amser: Rhwng 2.00y.p. a 3.00y.p.
  • Dyddiad: 27 Awst 2004

Lleoliad: Canolfan Johhny Owen

  • Amser: Rhwng 2.00y.p. a 3.00y.p.
  • Dyddiad: 24 Medi 2004

Lleoliad: Old Age Hut, Eighth Avenue

  • Amser: Rhwng 2.00y.p. a 3.00y.p.
  • Dyddiad: 29 Hydref 2004

Lleoliad: Horeb Close

  • Amser: Rhwng 2.00y.p. a 3.00y.p.
  • Dyddiad: 3 Rhagfyr 2004

Lleoliad: 2 Winchfawr House, Ystad Gellideg

  • Amser: Rhwng 10.00y.b. a 12.00canol dydd
  • Dyddiad: Bob Dydd Iau

Lleoliad: The Caffi, The Green, Trefechan

  • Amser: Rhwng 10.0y.b. a 11.30y.b.
  • Dyddiad: Bob Dydd Iau

Shelter Cymru yn lansio ymchwiliad cenedlaethol i gyflwr tai

Mae Shelter Cymru wedi lansio ymchwiliad cenedlaethol i ddigartrefedd a thai gwael eu cyflwr yng Nghymru.

Bydd panel o Gomisiynwyr dan gadeiryddiaeth Archesgob Cymru Dr. Barry Morgan, yn arwain Diwrnodau Tystiolaeth ar draws Cymru ac yn casglu straeon gwir gan bobl sy’n byw mewn tai gwael neu sy’n ddigartref.

Bydd yr ymchwiliad hefyd yn gwrando ar dystiolaeth gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd yn eu cymunedau.

Cynhelir y Diwrnod Tystiolaeth cyntaf ar 10fed Ebrill 2006 yng Nghanolfan Blant Integredig Cwm Golau ym Merthyr Tudful. Mae Shelter Cymru yn gwahodd y cyhoedd i ddod i Ddiwrnod Tystiolaeth yn eu hardal a rhannu eu profiadau gyda’r Comisiynwyr. Mae’r elusen yn gobeithio y bydd y wybodaeth a gesglir yn rhoi cipolwg gwirioneddol ar y problemau y mae tai gwael a digartrefedd yn eu hachosi ac y bydd y comisiwn yn gallu canfod ffyrdd newydd o roi sylw i'r broblem.

Rydym yn gwahodd y cyhoedd i gyflwyno eu storiau os ydynt wedi bod yn ddigartref neu os ydynt wedi profi amodau byw gwael.  Bydd Shelter Cymru yn defnyddio rhain fel tystiolaeth ac mewn diwrnod Tystiolaeth.  Dylid e-bostio joannem@sheltercymru.org.uk  neu campaign@sheltercymru.org.uk  neu ffonio 01792 483075.