Email: customer.care@merthyr.gov.uk    Tel: 01685 725000
Address: Merthyr Tydfil CBC, Civic Centre, Castle Street, Merthyr Tydfil, United Kingdom CF47 8AN

Rate this page

Arolygon Cyflwr Ystadau

PVC Installation

Cadw golwg ar ein tai cyngor

Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn biau bron 5,000 o dai, yn amrywio o fflatiau blocdwr aml-lawr i dai brics traddodiadol. Mae ein tai yn cynnwys rhesi tai o Oes Fictoria, ystadau maestrefol cyn rhyfel a datblygiadau modern ar ôl rhyfel.

Mae’n bwysig ein bod yn gwybod y diweddaraf am gyflwr y tai hyn, gan fod dan fuddsoddiad, mae’r tywydd ac amser yn effeithio arnynt. Rydym am lun diweddaraf, cyson a chywir am ba atgyweiriadau sydd angen cael eu gwneud a beth sydd rhaid gwneud yn y dyfodol efallai.

Er mwyn i ni wneud hyn, rydym wedi gwneud arolwg cyflwr stoc yn ddiweddar. Cyhoeddir canlyniadau’r arolygon hyn bob dwy neu dair blynedd. Defnyddir yr adroddiad hwn yna i gynllunio ein gwaith cynnal rhaglenedig ar gyfer y blynyddoedd i ddod

Mae gwaith cynnal rhaglenedig yn cynnwys:

  • rhoi tô newydd ar dŷ
  • ffenestri newydd
  • simneiau newydd
  • atgyweirio neu ailosod caenen.

Mae arolygwyr yn gweithio at amodau tyn iawn, felly gallant weld problemau tebyg sydd angen rhaglen cynnal cynlluniedig.

Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu dadansoddi’r canlyniad gan ardal ac gan elfen i greu rhaglen gwaith cynnal cynlluniedig sy’n delio â’r problemau gwaethaf yn gyntaf.