Mae’r gwasanaeth amgueddfeydd yn ymroddedig i ddarparu profiad cyffrous, ymarferol sy’n berthnasol i’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac i gynlluniau gwaith poblogaeth ar gyfer Hanes a Chelf. Gellir teilwra gweithgareddau a deunyddiau cefnogi ar gyfer pob cyfnod allweddol i gwrdd ag anghenion athrawon. Mae gan athrawon yr opsiwn i arwain y sesiynau eu hunain neu gallant ddewis defnyddio swyddog Addysg a chodir tâl bychan am hynny.
Pecynnau Gwybodaeth a Thaflenni Gwaith
Mae taflenni gwaith a phecynnau gwybodaeth pwrpasol gyda nodiadau arweiniad i athrawon yn cael eu datblygu er mwyn darparu cefnogaeth ychwanegol a strwythur i ymweliadau disgyblion â chasgliadau’r amgueddfa a safleoedd dan ein gofal.
Gwaith Allanol
Mae casgliad bychan o nwyddau’n seiliedig ar themâu domestig ar gael ar fenthyg i ysgolion a grwpiau cymunedol. Fodd bynnag, anogir defnyddwyr yn gryf i drefnu sesiwn gweithdy gyda Swyddog Addysg yr Amgueddfa fydd yn dod â nifer o wrthrychau ar ddewis bwnc neu thema i’r ysgol neu’r adeilad cymunedol ac yn arwain neu’n cefnogi sesiynau gweithdy trafod gwrthrychau mewn cydweithrediad ag athrawon/ trefnwyr. Fel hyn, gall cefnogaeth arbenigol ac amrywiaeth ehangach o wrthrychau fod ar gael i chi.
Cyfleusterau Ychwanegol
Mae caffi a thoiledau ar gael yn y Castell. Mae modd gwneud ystafell ar gael ar gyfer bwyta pecynnau cinio yn y Castell, cyn belled â bod cais yn cael ei wneud am hyn adeg trefnu’r ymweliad.
Prisiau
£20 Un sesiwn dan arweiniad heb derfyn ar nifer y plant y cewch ddod â hwy. Mynediad am ddim y Gastell Cyfarthfa a Bwthyn Joseph Parry.