Er mwyn gwneud y gorau o’ch ymweliad, mae profiad yn awgrymu’r canlynol:
Awgrymir bod pob grŵp sy’n ymweld â’r amgueddfa’n archebu ymlaen llaw er mwyn gwneud y gorau o’u hymweliad.
Arlwyo
Gan mai busnes teuluol preifat yw’r Ystafell De, a’r lle’n gyfyngedig, argymhellwn eich bod yn archebu eich arlwyo ymlaen llaw.
Mynediad/ Cyfleusterau i’r Anabl
Bydd ein Cynorthwywyr Amgueddfa yng Nghastell Cyfarthfa’n hapus i agor y fynedfa i’r anabl ar gyfer eich grŵp, a byddant yn tynnu eich sylw at y lifft cadair a thoiledau’r anabl.
Parcio
Mae lle ar gael i fysys barcio am ddim. Cewch gyfarwyddiadau pan dderbyniwn eich archeb.
Prisiau
Mae mynediad yn rhad ac am ddim yn ystod oriau agor arferol.
Mae teithiau tywys (ar gyfer grwpiau o lai na 25) neu sgyrsiau darluniadol i gynulleidfa sy’n eistedd (i grwpiau o 25 a mwy) ar gael, er y codir tâl. Cysylltwch â ni am fanylion.
Mae modd trefnu ymweliadau gyda’r nos hefyd, ond codir tâl i dalu costau staff, goleuo ayyb (cysylltwch â ni am fanylion os gwelwch yn dda).
Mae’n bosib y codir tâl am gymryd rhan mewn ‘digwyddiadau arbennig’ hefyd.
Sut i Archebu
Cysylltwch â’r Amgueddfa dros y ffôn/ ffacs (01685 723112) er mwyn archebu. Byddwn wedyn yn anfon cadarnhad atoch. Fel arall, anfonwch e-bost at museum@merthyr.gov.uk.