Welcome to Cyfarthfa Castle

Oriau Agor

1af Ebrill – 30ain Medi
Bob dydd10am - 5:30pm
 
1af Hydref – 31ain Mawrthh
LlunAR GAU
Mawrth10am - 4pm
Mercher10am - 4pm
Iau10am - 4pm
Gwener10am - 4pm
Sadwrn12pm - 4pm
Sul12pm - 4pm
Mynediad am Ddim

Cysylltu

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth am y Castell, mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd:

Ffôn +44 (0)1685 723112
Ebost: museum@merthyr.gov.uk

Priodasau yn y Castell

Mae gan Gastell Cyfarthfa ystafell sydd wedi’i thrwyddedu i gynnal seremonïau priodas sifil.  Mae’r adran hon yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i drefnu Gwasanaeth Priodas ar gyfer eich diwrnod arbennig.

 

Yr Ystafell Briodas

Mae lle i eistedd ar gyfer 48 o westeion, y briodferch, y priodfab a’r Cofrestrydd.  Dyma’r uchafswm a ganiateir yn yr ystafell oherwydd cyfyngiadau tân ac ni ellir caniatáu mynediad i fwy na hyn.  Bydd unrhyw westeion ychwanegol yn gallu aros yn orielau’r amgueddfa i weld y Briodferch a’r Priodfab ar ôl y gwasanaeth.

Ar ôl y Seremoni, byddwch yn gallu cymryd mantais o harddwch y castell, y tu mewn a’r tu allan, ar gyfer eich lluniau priodas.  Os ydych am ddefnyddio’r grisiau blaen ar gyfer tynnu llun, byddwch yn brydlon iawn gan mai dyma brif fynedfa’r amgueddfa.

 

Argaeledd

Mae priodasau ar gael ar y dyddiau canlynol, o fewn yr amserau a nodir.

Dyddiau Mercher a Gwener 2.30pm - 4.00pm
Dydd Sadwrn 12.30pm - 2.00pm
Dydd Sul (1af Ebrill – 30ain Medi’n unig) 11.00am - 12.30pm

Ni fydd priodasau ar gael ar benwythnosau Gŵyl y Banc (Gwener – Llun yn gynwysedig), cyfnod y Nadolig rhwng Rhagfyr 24ain a Ionawr 2il, a dyddiau pan fydd Digwyddiad Dinesig yn cael ei gynnal yn y Parc a/neu’r amgueddfa.

Dan amgylchiadau eithriadol, gall fod angen gwrthod priodas ar ddiwrnod penodol pe byddai trefniadau bwcio ymlaen llaw gan ymwelwyr yn golygu y byddai cynnal gwasanaeth priodas yn anymarferol.

Mae’r gwasanaeth hwn eisoes yn boblogaidd iawn, felly trefnwch mor fuan â phosibl er mwyn peidio cael eich siomi.  Pennir pris llogi’r ystafell yn flynyddol, ac mae cost y Cofrestrydd yn YCHWANEGOL i gost yr Amgueddfa.

 

Y Wledd Briodas

Ar hyn o bryd, nid yw hi’n bosibl cynnig y gwasanaeth hwn oherwydd cyfyngiadau gofod o fewn yr adeilad.  Fodd bynnag, bydd ein hystafell de ar agor i gynnig gwasanaeth arferol yn ystod y cyfnod y byddwch yn y Castell, felly os hoffai’ch gwesteion ddefnyddio’r caffi, bydd croeso mawr iddynt wneud hynny.

 

Prisiau

  • Priodas (am bob priodas ar ddyddiau Mercher a Gwener) - £200
  • Priodas (am bob priodas ar ddydd Sadwrn) - £250
  • Priodas (am bob priodas ar ddydd Sul, Ebrill – Medi’n unig) - £300  

Sut i Wneud Trefniadau

1. Os ydych am archebu’r Ysgafell Briodas, cysylltwch â’r amgueddfa drwy ffonio 01685 723112 neu e-bostiwch museum@merthyr.gov.uk <mailto:museum@merthyr.gov.uk> i ddechrau i wneud yn siŵr fod y dyddiad a’r amser ar gael (oherwydd y galw a’r cyfyngiadau amser, mae’n ddoeth trefnu’n ddigon pell ymlaen llaw).

2. Os yw’r dyddiad a’r amser ar gael, cysylltwch â’r Cofrestrydd ar unwaith i sicrhau bod Cofrestrydd ar gael ar y diwrnod.  Mae hyn yn hanfodol, gan na all unrhyw briodas ddigwydd heb Gofrestrydd.  Nid yw’r amgueddfa’n cymryd unrhyw gyfrifoldeb dros drefnu Cofrestrydd.

3. Os gall y Cofrestrydd gwrdd â’ch anghenion, dywedwch wrth yr Amgueddfa, fydd yn cadarnhau eich archeb.  Os yw’r cyfan yn foddhaol, bydd ffurflen archebu Pro Forma’n cael ei gwblhau a’i anfon/ ei roi i chi, yn dangos yr amser, y dyddiad ac enwau’r pâr fydd yn priodi.  Mae angen talu’n llawn i’r amgueddfa o fewn 28 diwrnod i dderbyn y pro forma, ac unwaith y bydd y tâl wedi’i dderbyn, mae’r contract archebu wedi’i gwblhau, a bydd pecyn priodas yn cael ei anfon atoch.  Rhaid talu tâl y Cofrestrydd yn llawn o leiaf 10 diwrnod cyn y gwasanaeth.

4. Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn cwrdd â’r holl ofynion cyfreithiol gan ddilyn cyngor y Cofrestrydd, cyn y gwasanaeth Priodas.  Cysylltwch â’r Cofrestrydd os oes gennych chi unrhyw ymholiadau.  Ni all yr amgueddfa gael ei ddal yn gyfrifol am unrhyw amryfusedd yn y maes hwn.