Blwch Twist Glöwr
19mm o uchder x 72mm o led x 34mm o ddyfnder
Blwch twist glöwr mewn pres, ar gyfer tybaco, gyda chaead colfachog, a llythrennau wedi’u stampio: DANIEL:PHILLIP 5.MARY.ST ABERDAR. 1888. Cafodd Daniel Phillips, perchennog y blwch, ei eni yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin, ym 1872, yn fab i Joseph ac Ann Phillips. Saer maen oedd ei dad, a symudodd i Aberdâr yn fuan ar ôl i Daniel gael ei eni, lle’r ymgartrefodd y teulu yn 5 Mary Street. Treuliodd Daniel Phillips ei fywyd gwaith yn löwr yn ardal Aberdâr, lle bu’n dal i fyw yn 5 Mary Street ar ôl marwolaeth ei rieni yn y 1890au, ac yno y magodd ei blant ei hun gyda’i wraig Mary.