Welcome to Cyfarthfa Castle

Oriau Agor

1af Ebrill – 30ain Medi
Bob dydd10am - 5:30pm
 
1af Hydref – 31ain Mawrthh
LlunAR GAU
Mawrth10am - 4pm
Mercher10am - 4pm
Iau10am - 4pm
Gwener10am - 4pm
Sadwrn12pm - 4pm
Sul12pm - 4pm
Mynediad am Ddim

Cysylltu

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth am y Castell, mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd:

Ffôn +44 (0)1685 723112
Ebost: museum@merthyr.gov.uk

Casgliad y Diwydiant Haearn 

    Darn o Botel

    27mm o uchder x 69mm o led x 8mm o ddyfnder

    Darn o botel wydr gwyrdd wedi’i gwmpasu â ffrâm bren.  Mae’r pren wedi’i orchuddio ag ysgrifen mewn inc: June 13 1850, Portion of the bottle broken against no 9 Furnace at Plymouth works when named “Sarah”.

    Pelen Ganon Haearn

    68mm diamedr

    Pelen ganon haearn a wnaethpwyd yng Ngwaith Haearn Cyfarthfa ar gyfer byddin Nelson.

    Darn o Gledren Haearn

    129mm o hyd x 68mm o led x 44mm o ddyfnder

    Darn o gledren haearn siâp ‘I’.

    Darlun Olew

    580mm o uchder x 790mm o led

    Gwaith Dowlais yn y Nos (1929), priodolir i Mansell Lewis

    Paentiad (Dyfrlliw)

    470mm o uchder x 390mm o led

    Gweithio Haearn ym Merthyr Tudful (1792), gan Julius Caesar Ibbetson (1759-1817). Mae’r paentiad yn dangos pentwr o haearn wedi’i bwdlo’n cael ei forthwylio i gael gwared ar slag.

    Darlun Pensil

    550mm o uchder x 780mm o led

    Tŷ Cyfarthfa a’r gwaith gan William Pamplin. Dyma un o’r darluniau cynharaf o Waith Haearn Cyfarthfa, wedi’i greu rywbryd rhwng 1791 a 1800. Pamplin oedd garddwr Richard Crawshay, a gofynnwyd iddo dynnu llun gwaith haearn Cyfarthfa.

    Haearn Bwrw

    80mm o uchder x 30mm o led

    Darn o haearn bwrw, wedi’i gymryd o’r cynhyrchiad cyntaf yn Ffwrnais Chwyth ‘Sarah’ oedd newydd ei hagor yng Ngwaith Plymouth, 1850.

    Poster Gwobr

    380mm o uchder x 503mm o led

    Poster gwobr am £100.  Mae’n ymwneud â sïon am Waith Glo Nantymelyn, oedd wedi eu cychwyn gan ryw ‘berson meddwl drwg’.  Cafodd y poster ei gynhyrchu gan William Morris o Aberdâr.

    Tystysgrif Sgolarship

    208mm o uchder x 252mm o led

    Cafodd y Tystysgrif Sgolarship Tysteb Guest ei gyflwyno i Anne Jones, 13 oed, am hyfedredd mewn darllen, ysgrifennu, rhifyddeg, arddywediad a’r ysgrythurau; ac am bresenoldeb rheolaidd a phresenoldeb da yn yr ysgol.  Roedd gan Charlotte Guest gydwybod cymdeithasol cryf ac fe sefydlodd ysgolion yn yr ardal i addysgu plant y gweithwyr.  Dyddiad yr enghraifft hon yw Dowlais, 28ain Rhagfyr 1866.

    System Tocynnau Tryc

    25mm diamedr

    O ran talu eu gweithwyr, roedd y Meistri Haearn wedi’u rhannu dros dalu mewn tocynnau neu mewn arian sychion.  Roedd y Crawshays yn talu eu gweithwyr mewn arian, a gallai’r gweithwyr wario eu harian lle bynnag y dewisent.  Roedd cyflogwyr eraill, megis y Guests o Ddowlais, yn talu mewn tocynnau y gellid eu gwario mewn siopau oedd yn cael eu rhedeg gan y cwmni.  Tocyn 5 swllt yw’r un a welir yma.