Welcome to Cyfarthfa Castle

Oriau Agor

1af Ebrill – 30ain Medi
Bob dydd10am - 5:30pm
 
1af Hydref – 31ain Mawrthh
LlunAR GAU
Mawrth10am - 4pm
Mercher10am - 4pm
Iau10am - 4pm
Gwener10am - 4pm
Sadwrn12pm - 4pm
Sul12pm - 4pm
Mynediad am Ddim

Cysylltu

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth am y Castell, mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd:

Ffôn +44 (0)1685 723112
Ebost: museum@merthyr.gov.uk

Nid yw pob un o’r eitemau hyn yn cael eu harddangos yn barhaus.  Cysylltwch â’r amgueddfa os oes casgliad penodol yr hoffech edrych arno.

 

Celfyddyd Gain

Mae gennym gasgliad bendigedig o gelfyddyd gain, sydd wedi ei leoli yn Amgueddfa Castell Cyfarthfa.  Ymhlith y gweithiau mae gweithiau cynnar o Ferthyr Tudful ddiwydiannol gan artistiaid megis Penry Williams ac Ibbetson.  Mae’r casgliad yn cynnwys arlunwyr fu’n arddangos yn yr Academi Frenhinol megis Collingwood Smith a Burne Jones.  Mae gennym gasgliad arbennig o gelf yr 20fed ganrif hefyd, gydag enwau megis Esther Grainger, Cedric Morris, Kyffin Williams, a Curnow Vosper.

 

Cerameg

Mae’n casgliad o gerameg yn eithaf helaeth, gydag enghreifftiau o gynhyrchwyr lleol megis Abertawe a Nantgarw, ochr yn ochr â Royal Worcester, Derby, Wedgwood a Chelsea a llawer mwy.

 

Tecstiliau

Mae gennym gasgliad bychan o wisgoedd, yn cynnwys yn bennaf dillad menywod o gyfnod Fictoria, gyda rhai eitemau o’r ganrif hon.  Mae gennym hefyd gasgliad o sampleri, a thecstilau’r tŷ megis cwiltiau.

 

Ethnograffeg

Mae gennym gasgliad eang ac amrywiol o eitemau o bob rhan o’r byd, yn enwedig Affrica, y Dwyrain, Indonesia a’r Aifft.  Cafodd y rhain eu casglu gan deithwyr Edwardaidd a Fictorianaidd oedd wedi eu hudo gan ddiwylliannau eraill.

 

Hanes Cymdeithasol

Hanes cymdeithasol y dref yw un o’r meysydd mwyaf poblogaidd i ymwelwyr.  Mae’n casgliadau’n cynnwys eitemau sy’n ymwneud â theulu Crawshay, eitemau diwydiannol o weithfeydd Cyfarthfa a Dowlais, cloddio glo a diwydiannau modern; eitemau crefyddol wedi’u casglu o wahanol sefydliadau crefyddol yn yr ardal; ac eitemau domestig o’r ganrif ddiwethaf.  Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys pethau cofiadwy perthnasol i Joseph Parry, sy’n cael eu harddangos ym Mwthyn Joseph Parry.

 

Astudiaeth Natur

Mae casgliad bychan o astudiaeth natur wedi cael ei gadw’n bennaf yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.  Mae’r casgliad yn cynnwys wyau, cregyn, rhai pryfed, a chasgliad o adar.

 

Archaeoleg

Mae casgliad bychan o archaeoleg leol yn cael ei gadw yn Amgueddfa Castell Cyfarthfa yn cynnwys pethau gafodd eu canfod yng Nghaer Rufeinig Penydarren a phennau bwyeill a fflintiau.

 

Darnau arian

Casgliad bach o ddarnau arian sydd yma, yn cynnwys enghreifftiau o dociau lleol, a darnau arian o hanes Prydain, heb eu casglu’n lleol o anghenraid.

 

Atgynhyrchu / Hawlfraint

Mae gan Amgueddfa Cyfarthfa gasgliad rhyfeddol, y mae galw amdano’n aml gan sefydliadau eraill i’w atgynhyrchu mewn arddangosfeydd, cyhoeddiadau ac ar raglenni teledu.  Mae’r amgueddfa’n codi tâl hawlfraint am ddefnyddio unrhyw ddelweddau.

TALIADAU ATGYNHYRCHU: Du a Gwyn £30, Lliw £40