Welcome to Cyfarthfa Castle

Oriau Agor

1af Ebrill – 30ain Medi
Bob dydd10am - 5:30pm
 
1af Hydref – 31ain Mawrthh
LlunAR GAU
Mawrth10am - 4pm
Mercher10am - 4pm
Iau10am - 4pm
Gwener10am - 4pm
Sadwrn12pm - 4pm
Sul12pm - 4pm
Mynediad am Ddim

Cysylltu

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth am y Castell, mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd:

Ffôn +44 (0)1685 723112
Ebost: museum@merthyr.gov.uk

Casgliad - Personoliaethau

    Poster Gornest Baffio gyda Howard Winstone yn cymryd rhan

    512mm o uchder x 356mm o led

    Bu Howard Winstone (1939-2000) yn ddeilydd nifer o deitlau paffio, yn cynnwys Pencampwriaeth Pwysau Plu Prydain a phencampwriaeth Pwysau Plu Ewrop.  Fe gurodd Mitsunori Seki yn y Royal Albert Hall ym mis Ionawr 1968 i ddod yn Bencampwr Pwysau Plu’r Byd, ac er mai dim ond am 6 mis y bu’n dal y teitl, i lawer o’i gefnogwyr ef yw eu pencampwr o hyd.  Mae’r poster cynnar hwn yn hysbysebu gornest baffio yn y Drill Hall, Abertawe, ddydd Iau, 22 Tachwedd 1962 rhwng Howard Winstone a Brain Curvis.

    Penddelw Marmor Bwrw o Syr Josiah John Guest

    860mm o uchder x 620mm o led x 330mm o ddyfnder

    Mae enwau Josiah John Guest (1785-1852) a’i ail wraig Charlotte Guest (1815-1895) wedi eu cysylltu’n annileadwy â’r gwaith haearn yn Nowlais ac i’r ymdrechion mawr a wnaethant i wella gwaith ac amodau byw eu cyflogedigion.  Daeth tad-cu J. J. Guest, John, i Ddowlais o Swydd Amwythig yn ystod y 1760au, yn rheolwr ar y gwaith i’r perchennog William Lewis.  Rhoddwyd partneriaeth i Guest yn wobr am ei lafur ym 1762, a chafodd ei olynu gan ei fab Thomas. J. J. Guest oedd yr ieuengaf o ddau fab, a daeth i ddal cyfran reoli’r gwaith yn Nowlais.  Canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwaith Dowlais oedd y busnes cynhyrchu haearn mwyaf yn y byd.  Roedd gan Guest farn gref ar faterion gwleidyddol pwysig y dydd a bu’n Aelod Seneddol dros Ferthyr Tudful ar ôl i’r dref gael ei rhyddfreinio ym 1832.  Roedd yn cefnogi Masnach Rydd, ar ddileu caethwasiaeth, ac ar ddiwygio’r eglwys.

    Gwregys Johnny Owen

    760mm o uchder x 100mm o led

    Cynrychiolodd Johnny Owen (1956-1980) Gymru 7 gwaith yn ystod ei yrfa amatur, ac aeth ymlaen i ddal teitlau Pwysau Bantam Prydain ac Ewrop.  Yr enw poblogaidd arno oedd y ‘Matchstick Man’.  Enillodd 25 gornest, colli 2 ac roedd un yn gyfartal.  Yn ystod ei ornest yn erbyn Lupe Pinter yn Los Angeles, ym 1980, cafodd ei fwrw’n anymwybodol, ac aeth i goma na ddaeth allan ohono.

    Ffotograff o Penry Williams

    Heb ei gofnodi

    Yn frodor o Ferthyr, roedd Penry Williams (1802-1885) yn arddangos doniau artistig yn ifanc iawn, a daeth i sylw’r Meistr Haearn William Crawshay II, a anogodd y gŵr ifanc a dod yn noddwr iddo.  Er mai ychydig o addysg ffurfiol a hyfforddiant a gafodd, aeth Williams ymlaen i astudio yn yr Academi Frenhinol yn Llundain a daeth yn artist medrus.  O ran ei arddull, roedd yn sefyll rhwng arddull glasuron y ddeunawfed ganrif a realaeth diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Ar ôl iddo ei sefydlu ei hun yn Rhufain o’r 1920au, bu’n peintio gwrthrychau Eidalaidd, er mawr pleser prynwyr Prydeinig.  Cafodd yr Orymdaith i’r Bedydd ei beintio ar gyfer J. J. Guest, a’i rhoddodd i’w wraig newydd, Charlotte, yn anrheg priodas.

    Penddelw Plaster o Frank Treharne James

    520mm o uchder x 180mm o led x 180mm o ddyfnder

    Roedd F. T. James (1861-1942) yn aelod o deulu oedd wedi cymryd rhan mewn gwasanaeth cyhoeddus ym Merthyr am dros ganrif.  Ymysg swyddi cyhoeddus eraill, bu’n glerc i Fwrdd y Gwarcheidwaid, yn Arolygwr Cofrestru, yn glerc i Gyngor Bro Gwledig Gelligaer a Rhigos, yn glerc i Bwyllgor Asesu Merthyr ac yn Arglwydd Faer.  Cafodd ei wneud yn rhyddfreiniwr y fwrdeistref ym 1939.  F. T. James oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ym 1910 a bu’n chwarae rhan agos ym materion yr amgueddfa fel Cadeirydd Pwyllgor yr Amgueddfa hyd ei farwolaeth ym 1942.

    Portread o Margaret Morgan (‘Macws’) o Gefn Coed

    560mm o uchder x 710mm o led

    Roedd Margaret Morgan (1815-1896), neu ‘Macws’ fel y’i gelwid, yn gymeriad adnabyddus yng Nghefn Coed, lle cafodd ei gennu a lle bu fyw gydol ei bywyd.  Dysgodd i ddarllen Cymraeg yn yr ysgol yn Eglwys Faenor, a daeth yn enwog fel adroddwr Cymraeg.  Priododd Rees Morgan, a chafodd un mab.  Cafodd y portread ei beintio gan Henry Dyke Pearce (1848-1895) o Ferthyr.

    Portread o Richard Crawshay

    1165mm o uchder x 1010mm o led

    Cafodd y cyntaf o Feistri Haearn Cyfarthfa, Richard Crawshay (1739-1810) ei eni i deulu o iwmyn yn Swydd Efrog, ac yn ei arddegau symudodd i lawr i’r de i Lundain i geisio ei ffortiwn.  Drwy ddyfalbarhad (arwyddair y teulu) llwyddodd i ennill y gyfran reoli yng ngwaith Cyfarthfa oedd newydd ei sefydlu, a sylfaenodd gysylltiad llinach Crawshay gyda Merthyr Tudful, a barhaodd am dros ganrif.

    Portread o Rose Mary Crawshay gyda’i mab Richard

    2220mm o uchder x 1600mm o led

    Roedd Rose Mary Crawshay (1828-1907), Yeates gynt, yn wraig i Robert Thompson Crawshay, yr olaf o’r Meistri Haearn cyn cau’r gweithfeydd ym 1875.  Cafodd ei geni i deulu bonedd yn Berkshire, a daeth priodas Rose Mary ym 1846 â hi i Ferthyr Tudful yn feistres newydd Castell Cyfarthfa.  Roedd hi’n flaengar ac yn meddu ar gydwybod gymdeithasol, ac yn fuan dechreuodd drefnu prydau bwyd am ddim i’r tlodion a sefydlodd lyfrgelloedd mewn pentrefi lleol er mwyn addysgu’r gweithwyr.  Roedd hi hefyd yn hyrwyddwr cynnar i amlosgi a phleidlais i fenywod, flynyddoedd cyn bod pethau o’r fath yn cael eu caniatáu dan y gyfraith.  Fe’i gwelir yma gyda’i mab ieuengaf Richard Frederick Crawshay (1859-1903), wedi ei wisgo fel merch, yn ffasiwn arferol y 1860au.

    Cerflun o Richard Trevithick

    480mm o uchder x 180mm o led x 180mm o ddyfnder

    Model wrth raddfa yw hwn o’r cerflun efydd a godwyd y tu allan i lyfrgell Camborne, gorllewin Cernyw.  Cafodd Richard Trevithick (1771-1833) ei eni yng nghanol ardal cloddio tun a chopr Cernyw, a dangosodd ddiddordeb mewn peirianneg yn ifanc iawn.  Roedd dŵr yn cael ei bwmpio allan o fwyngloddiau Cernyw gan ddefnyddio injans stêm y codwyd patent arnynt gan Thomas Newcomen, ac roeddent yn ddrud i’w rhedeg.  Gwellodd Trevithick y cynllun drwy ddefnyddio stêm pwysedd uchel, arweiniodd y ffordd at injans rhatach, mwy effeithlon.  Arweiniodd ei ddyfeisiadau at y cerbyd cyntaf oedd yn cael ei yrru gan stêm (ym 1801) a thrwy osod injan ar gledrau, ef mewn gwirionedd ddyfeisiodd y trên rheilffordd, ym Mhenydarren ym 1804.

    Ffotograff Arlliwedig o Harry Hartley Southey

    Heb ei gofnodi

    Harry Hartley Southey (1871-1917) oedd mab hynaf Harry Wood Southey, a ddaeth i Ferthyr o Wlad yr haf yn y 1860au i weithio ar bapur newydd y Merthyr Express.  Daeth yn berchennog ar y papur hwnnw yn y pen draw.  O’i blentyndod cynnar, roedd gan Harry Southey awydd i deithio ac yn ystod ei ieuenctid llwyddodd i deithio i’r Môr Du, Penrhyn y Gogledd, amryw o wledydd Ewrop, America a’r Dwyrain Pell.  Roedd ganddo ddiddordeb neilltuol yn yr Aifft, ac ar ymweliad yno ym 1901 llwyddodd i brynu nifer o hynafiaethau Eifftaidd ac ychwanegodd atynt yn ddiweddarach pan gafodd ei osod yn yr Aifft yn ystod 1916.  Roedd Harry Southey hefyd yn adnabyddus ym Merthyr oherwydd ei gysylltiad â’r papur newydd, a bu’n rhedeg cangen Merthyr o’r fyddin diriogaethol.  Ymrestrodd yn ystod cyflafan 1914-1918 a chafodd ei anafu hyd farwolaeth ym Mrwydr Gaza ym 1917.