Welcome to Cyfarthfa Castle

Oriau Agor

1af Ebrill – 30ain Medi
Bob dydd10am - 5:30pm
 
1af Hydref – 31ain Mawrthh
LlunAR GAU
Mawrth10am - 4pm
Mercher10am - 4pm
Iau10am - 4pm
Gwener10am - 4pm
Sadwrn12pm - 4pm
Sul12pm - 4pm
Mynediad am Ddim

Cysylltu

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth am y Castell, mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd:

Ffôn +44 (0)1685 723112
Ebost: museum@merthyr.gov.uk

Gwleidyddiaeth - Casgliad

    Blwch Pleidleisio

    305mm o uchder x 357mm o led x 205mm o ddyfnder

    Blwch pleidleisio pren.  Y math cyntaf o flwch pleidleisio dirgel, a gynhyrchwyd, a chodi patent arno, gan Mr. William Gould of Merthyr.  Cafodd ei arddangos gyntaf yn Ystafelloedd yr Ysgol Genedlaethol ar Ebrill 9fed 1870.

    Allwedd Seremonïol

    30mm o uchder x 195mm o led x 85mm o ddyfnder

    Allwedd arian seremonïol mewn blwch cyflwyno.  Cyflwynwyd hwn i’r Maer a’r Cynghorydd, F.T. James, Y.H., yn ystod agoriad Ysgol Fabanod Newydd Dowlais ar 5ed Hydref 1910.

    Cas Coffaol

    130mm o uchder x 295mm length x 168mm o ddyfnder

    Cas coffor pren gydag arfbais Merthyr Tudful ar y caead.  Mae’r testun ar yr ymyl mewnol yn dweud: Presented to Councillor John Edward Jones, J.P. upon the occasion of the Presentation of Freedom of the Borough 8th July 1948.

    Tystysgrif Goffaol

    202mm o uchder x 505mm o hyd

    Sgrôl memrwn darluniadol, wedi’i ysgrifennu â llaw a’i beintio gyda thasl ar y pen.  Cyflwynwyd y dystysgrif hon i’r Cynghorydd John Edward Jones ar 8fed Gorffennaf 1948 pan gafodd ei dderbyn yn rhyddfreiniwr anrhydeddus ym mwrdeistref Merthyr.

    Hysbysiad Etholiad

    165mm o uchder x 142mm o led

    Poster etholiadol o 1913.  Mae’r testun yn dweud: Election notice 1913 MERTHYR TYDFIL BOROUGH ELECTION, 1913, PLYMOUTH WARD, Your VOTE and INTEREST is respectfully solicited on behalf of the Independent Candidate. Vote for your Faithful Lady Representative who has served the public well for twelve years. Mrs M A Edmunds Medraf dderbyn eich cwynion yn iaith HEN WLAD EICH TADAU. Printed and published by H.W. Southey & Sons Ltd, Merthyr.  

    Poster Etholiadol

    360mm o uchder x 275mm o led

    Poster etholiadol gyda darlun pensil o J. Keir Hardie. Yr Albanwr enwog hwn oedd yr AS “llafur” cyntaf ym Mhrydain.  Roedd yn ymgeisydd dros y Blaid Lafur yn etholiad 1900 ac enillodd sedd Merthyr Tudful.  Roedd Hardie’n heddychwr ac yn hyrwyddwr Datgysylltiad.  Mynegwyd ei genedlaetholdeb Cymreig yn y ddelfryd o ‘tir i’r bobl’; byw mewn cymdeithas ac economi sosialaidd.

    Gŵn Faerol

    1300mm o hyd

    Gŵn Swyddogol y Maer (1980au) gafodd ei gwisgo gan swyddogion Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful am flynyddoedd lawer.

    Het y Maer

    155mm o uchder x 440mm o hyd

    Het Maer du gyda brêd aur yn ei addurno a llinyn tynnu.  Roedd yn eiddo i Enoch Morrell Ysw, Maer o 1905–1906.  Cafodd yr het ei gwneud gan Ede Ravenscroft, Llundain.

    Blwch Het y Maer

    165mm o uchder x 510mm o hyd

    Blwch het Maer mewn metel gyda dolen aur a border aur. Roedd yn eiddo i Enoch Morrell Ysw, Maer o 1905–1906.  Cafodd y blwch ei wneud gan Ede Ravenscroft, Llundain.

    Terfysg Merthyr 1816 gan Penry Williams.

    530mm o uchder x 680mm o led

    Cychwynnodd Terfysgoedd Merthyr 1816 yn sgil cyflogwyr yn gostwng cyflogau’r gweithwyr.  Daeth diwedd Rhyfeloedd Napoleon â chwymp mewn masnach arweiniodd at ostyngiad difrifol mewn cyflogau yng nghymoedd De Cymru.  Cafodd y meistri haearn eu dychryn gan ddicter enbyd y gweithwyr a doedd fawr ddim y gallen nhw’i wneud i rwystro’r terfysgoedd.  Cafwyd ymosodiadau personol yn erbyn rheolwr gwaith Penydarren; rhybuddiwyd y Crawshays am ymosodiadau o’r fath ac aethant ar ffo i ffermdy nes i’r gweithwyr gytuno ar drefniant a daeth y cynnwrf i ben.