Welcome to Cyfarthfa Castle

Oriau Agor

1af Ebrill – 30ain Medi
Bob dydd10am - 5:30pm
 
1af Hydref – 31ain Mawrthh
LlunAR GAU
Mawrth10am - 4pm
Mercher10am - 4pm
Iau10am - 4pm
Gwener10am - 4pm
Sadwrn12pm - 4pm
Sul12pm - 4pm
Mynediad am Ddim

Cysylltu

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth am y Castell, mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd:

Ffôn +44 (0)1685 723112
Ebost: museum@merthyr.gov.uk

Croeso

Cafodd Castell Cyfarthfa ei gomisiynu gan y Meistr Haearn, William Crawshay, ym 1824.  Roedd y plas mawreddog, castellog hwn yn edrych i lawr dros ei weithfeydd haearn eithriadol lwyddiannus, a chafodd ei alw’n “gofadail mwyaf trawiadol yr Oes Haearn Diwydiannol yn Ne Cymru”.

Yn y Castell, cewch edmygu’r casgliadau helaeth o gelfyddyd gain ac addurnol, yn cynnwys porslen Abertawe, Nantgarw a Wedgwood.  Cerddwch yn hamddenol drwy’r orielau llawn awyrgylch sy’n adrodd hanes cymdeithasol a diwydiannol, yn dilyn twf y dref fu unwaith yn ganolfan bwysig cynhyrchu haearn; dysgwch am Locomotif Penydarren Richard Trevithick yn 1804, y locomotif cyntaf i dynnu llwyth ar hyd cledrau; dysgwch am wreiddiau’r mudiad Llafur, o Derfysg Merthyr ym 1831, a merthyrdod Dic Penderyn, i’r Aelod Seneddol Llafur cyntaf - Keir Hardie; dewch i weld ein ‘amgueddfa o amgueddfa’ yn cynnwys rhyfeddodau o bob cwr o’r byd - nwyddau beddau o’r hen Aifft, arteffactau o Roeg a Rhufain, a chelfyddydau addurnol o’r Dwyrain Pell.

Mwynhewch goethder yr amgueddfa ddiddorol hon fu unwaith yn gartref teuluol, sydd wedi ei lleoli mewn parcdir hardd, ar ymyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

 

My Map Link

Signature