Prosiect Mynediad a Gwaith Allanol
15/09/06 11:17
Yma yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa mae gennym gyfle newydd cyffrous ar gyfer pobl Merthyr Tudful. Mae Swyddog Prosiect a Gwaith Allanol wedi cael ei phenodi i weithio gyda grwpiau cymunedol ym Merthyr Tudful ar amrywiaeth o brosiectau cyffrous. Gallwn drefnu sesiynau trafod gwrthrychau; gallwn weithio gyda grwpiau i greu arddangosfeydd unigryw; gallwn gydweithio gyda mudiadau sy’n gweithredu yn y gymuned; a gallwn gynnal sgyrsiau anffurfiol neu sesiynau hel atgofion. Byddwn yn teilwra ein gweithgareddau i gwrdd ag anghenion a diddordebau penodol grwpiau gwahanol a gellir eu cynnal yn yr amgueddfa ei hun, ond rydym hefyd yn hapus i fynd â’r gweithgareddau hyn i unrhyw leoliad addas. Cysylltwch â Michelle Planck (Swyddog Prosiect a Gwaith Allanol) ar 01635 723112 neu ar e-bost, ar museum@merthyr.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.