Oriau Agor
| 1af Ebrill – 30ain Medi |
| Iau | 2pm - 5pm |
| Gwener | 2pm - 5pm |
| Sadwrn | 2pm - 5pm |
| Sul | 2pm - 5pm |
| Mynediad am Ddim |
Cysylltu
Os hoffech gael unrhyw wybodaeth am Fwthyn Joseph Parry, mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd:
Ffôn: +44 (0)1685 723112
E-bost: museum@merthyr.gov.uk
Bwthyn Joseph Parry
Mae 4 Chapel Row yn enghraifft wych o fwthyn gweithiwr haearn nodweddiadol.
Cafodd y bwthyn ei adeiladu yn y 1820au ar gyfer gweithwyr Gwaith Haearn Cyfarthfa, ac yma ym 1841 y cafodd Joseph Parry, cyfansoddwr enwocaf Cymru, ei eni.
Mae ei ‘Myfanwy’ hoffus yn dal yn un o ffefrynnau Corau Meibion Cymru hyd heddiw.
Mae tu mewn i’r bwthyn wedi’i osod yn y 1840au, ac mae’n dangos amodau byw’r gweithwyr haearn adeg plentyndod Parry.
Yn orielau’r llofft mae arddangosfa ar fywyd a gwaith Parry, ac adran fechan yn rhoi rhagor o gefndir am orffennol diwydiannol Merthyr Tudful.