Ymweld
Noder fod mynediad i’r bwthyn yn rhad ac am ddim yn ystod oriau agor arferol. Fodd bynnag, mae’n bosib y codir tâl am unrhyw deithiau tywys, sgyrsiau, ymweliadau gyda’r nos a digwyddiadau arbennig.
Siop
Mae’r siop ym Mwthyn Joseph Parry wedi’i anelu at gyflenwi’r ymweliad â’r amgueddfa. Mae’r pethau sydd ar werth yn cynnwys cyhoeddiadau ar hanes lleol ac amrywiaeth o gofroddion addas i bob oedran.
Toiledau
Mae cyfleusterau sylfaenol ar gael ym Mwthyn Joseph Parry.
Cyfleusterau i’r Anabl
Mae’r llawr gwaelod ym Mwthyn Joseph Parry’n hygyrch i ddefnyddwyr anabl. Mae’r toiled yn fach, ac nid yw wedi cael ei addasu ar gyfer yr anabl. Mae arweinlyfrau print bras ar gael, ac mae gwybodaeth yn cael ei rhoi ar lafar gan dywysydd i’r rhai â nam ar eu golwg.
Mae gan y gwasanaeth Amgueddfeydd bolisi anabledd a mynediad sy’n anelu at fynd i’r afael ag anghenion yr anabl. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau ar y cyfleusterau sy’n cael eu darparu, a gellir eu cyflwyno ar bapur neu dros y ffôn ar 01685 723112 neu drwy e-bost ar museum@merthyr.gov.uk