Mae Bwthyn Joseph Parry’n croesawu grwpiau.
Er mwyn cael y gorau allan o’ch ymweliad, mae’n profiad yn awgrymu’r canlynol:
Toiledau
Gan mai dim ond un toiled sydd ym Mwthyn Joseph Parry, nid ydym yn argymell eich bod yn ei ddefnyddio fel cyfle i’r grŵp i gyd fynd i’r toiled. Mae cyfleusterau eraill ar gael yng Nghastell Cyfarthfa ac ym Mharc Cyfarthfa.
Mynediad / Cyfleusterau i’r Anabl
Bydd ein Cynorthwywyr Amgueddfa yng Nghastell Cyfarthfa’n hapus i agor y fynedfa i’r anabl ar gyfer eich grŵp, a byddant yn tynnu eich sylw at y lifft cadair a thoiledau’r anabl.
Mae llawr gwaelod Bwthyn Joseph Parry’n hygyrch.
Parcio
Mae lle ar gael i fysys barcio am ddim ym Mwthyn Joseph Parry. Cewch gyfarwyddiadau pan dderbyniwn eich archeb.
Prisiau – Teithiau Tywys a Sgyrsiau
Mae mynediad yn rhad ac am ddim yn ystod oriau agor arferol.
Mae teithiau tywys (ar gyfer grwpiau o lai na 25) neu sgyrsiau darluniadol i gynulleidfa sy’n eistedd (i grwpiau o 25 a mwy) ar gael, er y codir tâl.
Mae modd trefnu ymweliadau gyda’r nos hefyd, ond codir tâl i dalu costau staff, goleuo ayyb (cysylltwch â ni am fanylion os gwelwch yn dda).
Mae’n bosib y codir tâl am gymryd rhan mewn ‘digwyddiadau arbennig’ hefyd.
Sut i Archebu
Cysylltwch ag Amgueddfa Cyfarthfa dros y ffôn/ ffacs (01685 723112) er mwyn archebu. Byddwn wedyn yn anfon cadarnhad atoch. Fel arall, anfonwch e-bost at museum@merthyr.gov.uk.
Ymweliadau Addysgiadol
Ar gyfer Ymweliadau Addysgiadol, ffoniwch yr amgueddfa ar y rhif uchod neu llenwch y ffurflen ymholiadau ar-lein. Efallai y bydd angen i’r Swyddog Addysg siarad â chi er mwyn trafod gofynion/ trefniadau a chadarnhau’r dyddiad a’r amser ar gyfer eich ymweliad. Byddwn yn anfon ffurflen allan i chi ei llofnodi a’i hanfon yn ôl. Cysylltwch â ni o leiaf mis ymlaen llaw rhag ofn i chi gael eich siomi.