Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynllun Sgorio hylendid bwyd

Daeth Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 i rym ar 28 Tachwedd 2013. Mae'r Ddeddf yn sefydlu cynllun sgorio bwyd gorfodol ar gyfer Cymru.

Pan mae busnes bwyd wedi derbyn Sgôr Hylendid Bwyd a Sticer i gyd-fynd, mae'n rhaid ei arddangos mewn man amlwg ym mhob mynedfa neu wrth bob mynedfa i'r safle bwyd. Mae methu ag arddangos sticer dan y cynllun gorfodol (am unrhyw sgoriau a ddyfarnwyd ar ôl 27 Tachwedd 2013) yn drosedd a cheir dirwy benodedig o £200 (wedi'i ostwng i £150 os telir o fewn 14 diwrnod) a/neu'r posibilrwydd o erlyniad.

Mae'r Ddeddf yn datgan ei bod yn ofynnol i chi a'ch gweithwyr ddweud wrth gwsmeriaid, os byddant yn gofyn, beth yw'r sgôr mae'r busnes wedi'i dderbyn. Mae hyn  yn berthnasol yn ystod sgyrsiau wyneb yn wyneb yn ogystal â dros y ffôn.

Byddwch yn derbyn sticeri sgôr hylendid bwyd newydd bob tro y bydd eich safle yn cael arolwg ac yn cael ei sgorio. Ni fydd y sticer yn ddilys 21 diwrnod ar ôl i'r gweithredwr busnes dderbyn hysbysiad o sgôr newydd neu,  pan mae newid wedi bod ym mherchnogaeth y busnes. Mae'n rhaid i unrhyw sticeri sgôr hylendid bwyd a gyhoeddwyd yn flaenorol gael eu tynnu lawr a'u dinistrio unwaith na fyddant yn ddilys.

 

Sut i apelio sgôr hylendid bwyd

Os ydych yn meddwl bod sgôr hylendid yn anghyfiawn, gallwch gysylltu â'r swyddog arolygu i drafod. Os ydych yn dal i deimlo, ar ôl y trafodaethau hyn, bod y sgôr yn anghyfiawn, gallwch apelio yn ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod gan ddefnyddio ein ffurflen apelio bwrpasol . Cewch wybod am ganlyniad yr apêl o fewn 21 diwrnod wedi i'r apêl gael ei derbyn.

 

Mae gwneud cais i ail-sgorio yn costio £150

Os ydych wedi rhoi sylw i'r holl bwyntiau nad oeddech wedi cydymffurfio â hwy yn adroddiad yr arolwg a bod gennych dystiolaeth o'r rhain, yna gallwch wneud cais am ail-ymweliad at ddibenion ail-sgorio.

This is a service where there is an associated fee or charge.

For information on our current fees and charges see our Environmental Health Fees and Charges page.

Mae'r gost yn berthnasol yn unffurf ledled Cymru ac yn cynnwys cost yr arolygiad a'r costau gweinyddol cysylltiedig. Cynhelir yr ymweliad ail-sgorio o fewn 3 mis i dderbyn y taliad a byddwch yn cael ei hysbysu'n ysgrifenedig o'r sgôr.

Mae gennych hawl hefyd i ymateb yn dilyn eich arolygiad a bydd yr ymateb yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Asiantaeth Safonau Masnach gyda'ch sgôr. Dylid cyflwyno unrhyw sylwadau yn ysgrifenedig gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb gywir. Bydd y sylwadau hyn yn cael eu sgrinio gan swyddog priodol cyn iddynt gael eu cyhoeddi ar y wefan. 

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?