Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cerbydau bwyd symudol

Mae'n rhaid cofrestru Cerbydau Bwyd Symudol gyda'r awdurdod yn yr un ffordd â safleoedd bwyd eraill. Mae hyn yn rhad ac am ddim, ac mae'n rhaid ei wneud 28 diwrnod cyn dechrau masnachu. Mae'r awdurdod lleol mae'n rhaid i chi gofrestru ag ef yn dibynnu ar y fwrdeistref lle cedwir y cerbyd dros nos. Os cedwir eich cerbyd ym Merthyr Tudful dros nos, ewch ar dudalen Cofrestru Busnes Bwyd i ddarganfod sut i gofrestru.

Rydym yn derbyn nifer o ymholiadau bob blwyddyn gan bobl fel chi sy'n dymuno dechrau busnes bwyd symudol. Yn y rhan fwyaf o achosion, dod o hyd i gerbyd addas a'i gofrestru yw'r rhan hawdd.  Yn y rhan fwyaf o achosion, mae dod o hyd i safle addas i osod y cerbyd er mwyn paratoi a gweini bwyd yn peri problem. Credir yn gyffredin ei bod yn gwbl deg gosod cerbyd bwyd symudol mewn unrhyw encilfa neu ddarn o dir agored, ond nid yw hyn yn wir. Mae'n debyg y cewch eich symud ymlaen oni bai fod gennych ganiatâd i ddefnyddio darn penodol o dir, naill ai gan berchennog y tir, gan yr heddlu, neu gan y ddau.

O ran Priffyrdd, encilfeydd ac unrhyw dir arall sy'n eiddo i'r Cyngor, yn gyffredinol, ni roddir caniatâd. Fel arfer, gwrthodir caniatâd ar sail Diogelwch Priffyrdd. Os byddwch yn dod o hyd i safle y mae gennych ganiatâd i'w ddefnyddio, naill ai'n breifat neu drwy Adran Ystadau'r Cyngor, mae'n debyg y byddwch angen caniatâd cynllunio, hyd yn oed os yw'r cerbyd yn cael ei symud yn ddyddiol.

Os ydych wedi dod o hyd i safle ac mae gennych ganiatâd i weithredu, a'ch bod wedi cysylltu â'r Adran Gynllunio am gyngor ar ganiatâd cynllun ar gyfer eich cerbyd, cofrestrwch â ni trwy'r dudalen Cofrestru Busnes Bwyd.

Cysylltwch â Ni