Ar-lein, Mae'n arbed amser

Datblygiad cynaliadwy i fusnesau

Mae twristiaeth gynaliadwy yn faes twf mawr i ymwelwyr â Merthyr Tudful, gyda llawer o bobl yn dewis aros mewn “Llety Gwyrdd” yn hytrach na chynigion mwy traddodiadol.

Os ydych yn ymwelydd â’r ardal sy’n dymuno aros mewn llety cynaliadwy, ewch i wefan Visit Merthyr a gwefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am restrau addas.

Os ydych yn fusnes ym Merthyr Tudful, sy’n dymuno gwneud eich busnes yn fwy cynaliadwy i ddenu’r farchnad dwristiaeth werdd, mae mentrau y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw, hyfforddiant y gallwch ei gael ac arian posibl y gallwch ei gael i wireddu’r gofyniad hwn.

Cysylltwch ni am ragor o wybodaeth collabor8@merthyr.gov.uk

Cysylltwch â Ni