Ar-lein, Mae'n arbed amser

Brexit

Ar y cyd â’n partneriaid rhanbarthol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi bod yn paratoi ar gyfer ymadawiad Prydain â’r Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020. Rydym yn gweithio â CLlLC a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod gennym ddull cydweithiol a chyson o weithio ar draws llywodraeth leol yng Nghymru wrth ymateb i Brexit.

Mae nifer o wefannau defnyddiol wedi cael eu sefydlu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn darparu gwybodaeth ddefnyddiol a swyddogol ynghylch Brexit. Gallwch ddod o hyd i ddolenni ar gyfer y safleoedd ar y dudalen hon.

Cynllun Setliad yr UE

Gwybodaeth am y Cytundeb Setliad UE ar gyfer preswylwyr UE sy’n byw ym Merthyr Tudful.

Paratoi Cymru ar gyfer Brexit Heb Gytundeb

Bydd hwn yn mynd â chi i wefan Llywodraeth Cymru lle y dewch o hyd i gynlluniau os na fydd cytundeb Brexit.

Gwybodaeth Llywodraeth y DU

Gwybodaeth ynghylch Gadael yr UE ar wefan Llywodraeth y DU.

A allai’ch grŵp cymunedol chi gynorthwyo dinasyddion yr UE?

Gwybodaeth ynghylch cyfle gan y Swyddfa Gartref ar gyfer grwpiau cymunedol allai gynorthwyo dinasyddion yr UE i gwblhau eu ceisiadau ar gyfer statws setlo.

Diweddariad Paratoi ar gyfer gadael yr UE

Diweddariad ar paratoi i ymadel yr UE gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth ddiwydiannol.