Ar-lein, Mae'n arbed amser

CYSWLLT Papur newydd Merthyr Tydfil

Er mwyn gostwng costau a chynyddu’n hymgysylltiad â chi – ein preswylwyr, dros y tri mis nesaf, byddwn yn treialu ffordd newydd o drosglwyddo newyddion Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn uniongyrchol at eich drws.

Bydd gwedd newydd CYSWLLT yn cynnwys hysbysiadau i’r Cyhoedd a rhai Cyfreithiol felly gwyliwch allan amdanynt yn y tudalennau canol.

Bydd CYSWLLT hefyd yn cynnwys rhai hysbysebion sy’n helpu i gefnogi’r cyhoeddiad hwn, felly os oes diddordeb gennych mewn hysbysebu yn CYSWLLT,  ewch i www.merthyr.gov.uk/adverts

Rydym am i chi ein preswylwyr wybod beth sy’n digwydd ledled y Fwrdeistref Sirol a’r hyn sy’n bwysig i chi. Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am CYSWLLT ar ei newydd wedd a pha wybodaeth yr hoffech ei gweld ynddo. Mae holiaduron adborth ar gael ar wefan y Cyngor CYSWLLT adborth neu gallwch danfon ebost i coprorate.communications@merthyr.gov.uk i ofyn am gopi papur.