Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cydraddoldeb

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn tynnu ynghyd ac yn cymryd lle’r cyfreithiau gwrth-wahaniaethu blaenorol mewn Deddf unigol. Mae’n symleiddio ac yn cryfhau’r gyfraith, yn cael gwared ar anghysondebau ac yn ei wneud yn haws i bobl ei deall a chydymffurfio â hi. Daeth y rhan fwyaf o’r Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2010.

Mae’r Ddeddf yn cynnwys dyletswydd cydraddoldeb newydd i’r sector cyhoeddus (y ‘ddyletswydd gyffredinol’) sy’n cymryd lle’r dyletswyddau ar wahân o ran cydraddoldeb ar sail hil, anabledd a rhyw. Daeth hyn i rym ar 5 Ebrill 2011.

Mae’r ddyletswydd gyffredinol newydd yn ymdrin â’r nodweddion gwarchodedig canlynol:

  • Oedran
  • Ailbennu rhywedd
  • Rhyw
  • Hil – gan gynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol, lliw neu genedligrwydd
  • Anabledd
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Tueddfryd rhywiol
  • Crefydd neu gred – gan gynnwys diffyg cred

 Mae’n berthnasol i briodas a phartneriaeth sifil, ond o ran y gofyniad i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu yn unig.

Beth yw’r ddyletswydd gyffredinol?

Nod y ddyletswydd gyffredinol yw sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus a’r rheini sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus yn ystyried sut y gallan nhw gyfrannu’n bositif i gymdeithas decach trwy ddatblygu cydraddoldeb a chysylltiadau da yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. Mae’r ddyletswydd yn sicrhau bod ystyriaethau cydraddoldeb wedi’u cynnwys wrth lunio polisïau a darparu gwasanaethau ac y cânt eu hadolygu’n rheolaidd. Bydd hyn yn cyflawni canlyniadau gwell i bawb.

Mae galw ar gyrff cyhoeddus i ystyried yr angen i:

  • Ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac ymddygiad arall a gwaherddir gan y Ddeddf.
  • Datblygu cydraddoldeb cyfle rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rheini nad ydyn nhw’n rhannu’r nodwedd honno.
  • Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rheini nad ydyn nhw’n rhannu’r nodwedd honno.

Dyletswyddau penodol yng Nghymru

Pwrpas eang y dyletswyddau penodol yng Nghymru yw helpu cyrff rhestredig i gyflawni’r ddyletswydd gyffredinol a helpu tryloywder.

Beth yw’r dyletswyddau penodol?

Mae’r dyletswyddau penodol yng Nghymru wedi’u nodi yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Daeth y dyletswyddau penodol i rym ar 6 Ebrill 2011.

Mae’r dyletswyddau penodol yng Nghymru yn ymdrin â:

  • Amcanion
  • Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol
  • Ymgysylltiad
  • Asesu effaith
  • Gwybodaeth cydraddoldeb
  • Gwybodaeth cyflogaeth
  • Gwahaniaethau cyflog
  • Hyfforddi staff
  • Caffael
  • Adrodd blynyddol
  • Cyhoeddi
  • Adrodd i Weinidogion Cymru
  • Adolygu
  • Hygyrchedd

Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn falch o gyflwyno ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y cyfnod 2024-2028. Diben y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yw gwella cyfleoedd cyfartal yn ein cymuned drwy gyflenwi gwasanaethau, cyflogaeth, comisiynu, arweiniad a gweithio mewn partneriaeth.

Mae’r gweithgareddau yng nghynllun gweithredu’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn yn dangos ein hymrwymiad cryf yn glir o ran cael gwared ar bob ffordd o wahaniaethu a hyrwyddo cyfleoedd cyfatal a pherthnasoedd da ymhlith pobl sy’n ymweld â, byw a gweithio ym Merthyr Tudful.

Fel Cyngor, mae gennym ddyletswydd i fynd i’r afael â herio gwahaniaethau a difreintiededd fel bod pobl yn teimlo’n ddiogel rhag aflonyddwch a bod gan bawb fynediad at wasanaethau o ansawdd. Bydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn yn ein helpu ni i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y deilliannau cadarnhaol i bobl ym Merthyr Tudful a bod ein gwasanaethau’n hygyrch ac yn cael eu cyflenwi’n effeithiol ac  yn effeithlon.

Ein Gweledigaeth Cydraddoldebau ar gyfer Merthyr Tudful yw:  “Dyma fan ble y caiff amrywiaeth ei werthfawrogi a’i barchu a ble y gall pawb gyfranogi, llewyrchu a chael y cyfle i gyflawni ei botensial yn llwyr heb unrhyw wahaniaethu na rhagfarn.” 

Bydd y Cyngor yn gweithio at gyflawni’r Weledigaeth hon drwy gyfrwng ein rôl fel arweinydd cymunedol, darparwr gwasanaethau a chomisiynydd a chyflogwr. A byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant y Fwrdeistref Sirol.

Bydd y Cyngor yn defnyddio’i rôl fel arweinydd i hyrwyddo cydraddoldeb a gwahaniaethu a rhannu syniadau ac arfer da gyda phartneriaid a darparwyr gwasanaeth eraill. Byddwn yn parau i fireinio a datblygu ein gwasanaethau, gan gynnwys systemau monitro unigol i’n helpu ni i gael gwell dealltwriaeth o’n staff a’r cymunedau lleol ehangach a’n galluogi ni i ddiwallu anghenion amrywiol pawb.

Y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol (31 Mawrth 2021)

Mae'r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol yn rhoi cyfrifoldeb ar y Cyngor i ystyried ('rhoi sylw dyledus' i) sut y gallwn leihau anghydraddoldebau canlyniadau a achosir gan anfantais economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol.

Mae'r ddyletswydd yn rhoi cyfle i ni wneud pethau'n wahanol a rhoi mynd i'r afael ag anghydraddoldeb wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau allweddol. Nod cyffredinol y ddyletswydd yw sicrhau gwell canlyniadau i'r rhai sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol.

Bydd y ddyletswydd yn fecanwaith allweddol i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, a bydd yn eithriadol o bwysig pan fyddwn yn gwella o'r argyfwng presennol.