Ar-lein, Mae'n arbed amser
Strategaeth Cyfranogi
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo yn llwyr i gyflwyno gwasanaethau cynaliadwy o safon uchel. Yn graidd i lwyddiant hyn yw perthynas cryf rhwng y Cyngor, ei phreswylwyr, a’r cymunedau ar draws Merthyr Tudful gyfan.
Mae’r Strategaeth Cyfranogiad hwn yn gosod ein dull o annog cyfathrebu o’r ddwy ochr a gwneud y broses o ddylanwadu ar wneud penderfyniadau yn fwy hygyrch. Mae’n ystyried elfennau o Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 er mwyn cyflawni dwy broses wahanol ond cymharol:
- Y broses Ymgynghori ac Ymgysylltu Dylanwadu
- Y Broses Ddemocrataidd