Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyflwyno’r Mae'r Ieuenctid

Youth Mayor Katy Richards

Ddydd Gwener 12 Mai 2023, cynhaliwyd Seremoni Urddo’r Maer Ieuenctid yn y Ganolfan Ddinesig ym Merthyr Tudful.

Daeth Katy Richards sy’n 16 oed ac yn fyfyrwraig yn Ysgol Gatholig Bendigaid Carlo Acutis (yr Esgob Hedley gynt) yn 13eg Maer Ieuenctid Merthyr Tudful.

Daeth Dylan Morgan Thomas sy’n 16 oed ac yn fyfyriwr yn Ysgol Rhydywaun yn Ddirprwy Faer Ieuenctid Merthyr Tudful.

Yn ei haraith dderbyn, amlinellodd y Maer Ieuenctid ei thri addewid ar gyfer ei thymor yn y swydd. Roedd ei haddewid cyntaf yn bersonol iawn iddi i godi ymwybyddiaeth a datblygu cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl pobl ifanc.

Ail addewid Katy yw gweithio gydag, a herio addysg ar gyfer pobl ifanc drwy sicrhau bod iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn uchel ar yr agenda ac yn ffocws allweddol mewn ysgolion, gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gefnogaeth i fod y ‘gorau y gallant fod’.

Yn olaf, trydedd addewid Katy yw codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo hawliau cyfartal i’r bobl ifanc hynny ag anghenion dysgu ychwanegol neu’r rhai sy’n ystyried eu hunain yn anabl.

Dywedodd Katy, “Rwy’n angerddol iawn am y mater hwn gan fod gennyf nam clyw difrifol ac ADY felly, mae’n bwysig sicrhau newid cadarnhaol a fydd o fudd i bobl ifanc”.

Siaradodd Katy hefyd am y bobl ifanc gan ddweud “na fyddai’n bosibl i mi fod yn y rôl heb gefnogaeth pobl ifanc hynod Merthyr Tudful. Eu pleidlais nhw a’m rhoddodd yn y sefyllfa hon, ac iddynt hwy y byddaf yn gweithio’n ddiflino ac yn trin y swydd hon gyda’r statws a’r parch y mae’n ei haeddu”.

Mae Katy yn aelod o Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a hoffai i fwy o bobl ifanc gymryd rhan yn y fforwm.

...

Ddydd Iau, 28ain o Hydref, pleidleisiodd pobl ifanc Merthyr Tudful dros Ethol Dirprwy Faer Ieuenctid newydd. Yr ymgeisydd llwyddiannus oedd Jacob Bridges 20 oed sy’n gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Cyhoeddodd y Maer Ieuenctid Katy Richards ganlyniadau'r pleidleisio a gynhaliwyd ar draws y fwrdeistref yn ystod yr wythnos, mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Merthyr Tudful yn y Ganolfan Ddinesig; Bydd Jacob Bridges yn cymryd rôl Dirprwy Faer Ieuenctid ym mis Mai 2024.

Bob mis Hydref yn flynyddol mae gan bobl ifanc Merthyr bleidlais ddemocrataidd i ddewis y Maer Ieuenctid nesaf. Eleni rhoddwyd cynnig arni gan chwe ymgeisydd a chododd disgyblion ysgolion uwchradd a choleg Merthyr eu lleisiau er mwyn pleidleisio dros eu hymgeisydd.

Meddai’r Maer Ieuenctid presennol, Katie Richards, “Blwyddyn ar ôl blwyddyn mae safon yr ymgeiswyr yn syfrdanol ac nid oedd eleni’n wahanol” dywedodd bod Fforwm Ieuenctid Ledled Bwrdeistref Merthyr Tudful yn llongyfarch bob un am eu hymroddiad i’r ymgyrch. Yn ogystal â hynny, llongyfarchodd Katie bob ymgeisydd unigol am gynnig eu hunain i’r etholiad eleni a dwedodd ei bod yn edrych ymlaen at gydweithio â hwy pan fyddant yn ymuno â’r cabinet.

Yn bresennol roedd Maer Merthyr Tudful, y Cynghorydd Malcolm Colbran, y Dirprwy Arweinydd Andrew Barry, y Cynghorydd a’r Hyrwyddwr Plant Lisa Mytton, Y Cynghorydd Paula Layton, Y Cynghorydd Declan Sammon, Y Cynghorydd Claire Jones a’r Cynghorydd John Thomas.

Meddai’r Cynghorydd Malcolm Colbran, Maer Merthyr Tudful “Llongyfarchiadau i Jacob Bridges am ddod yn Ddarpar Faer Ieuenctid dros Ferthyr Tudful wedi iddo gael ei ethol gan ei gyfoedion allan o chwech o ymgeiswyr anhygoel.”

...

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan, cysylltwch â Swyddogion Cyfranogiad Cymorth Ieuenctid, Chloe Rees neu Morgan Ellis Watkins ym Safer Merthyr ar 01685 353999 neu cysylltwch â ni drwy ein Facebook, Instagram neu Twitter @MTYouthforum.

 

Cysylltwch â Ni