Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae’r cwmni Connected Kerb wedi cyhoeddi’r datganiad canlynol wedi iddynt ddarganfod problem gyda phwyntiau gwefru cerbydau trydanol yn ein hardal.

  • Categorïau : Press Release
  • 23 Ebr 2024
CK issue - April 23 24

Mae’r cwmni Connected Kerb wedi cyhoeddi’r datganiad canlynol wedi iddynt ddarganfod problem gyda phwyntiau gwefru cerbydau trydanol yn ein hardal. Hyd nes ein bod ni’n datrys y broblem, nid os modd defnyddio’r offer diffygiol i wefru cerbydau.

“Mae diogelwch ein rhwydwaith wefru’n flaenoriaeth bwysig i ni ac mae ein tîm o beirianwyr yn yr ardal yn archwilio pob pwynt gwefru sydd wedi ei effeithio.

“Ar ben hynny, rydym wedi penderfynu troi’r pwyntiau gwefru sydd wedi eu heffeithio i ffwrdd wrth i ni ddatrys y broblem. Bydd yn rhaid gweithio ar y safleoedd penodol hynny a bydd y gwaith yn cymryd ychydig o amser felly byddwn yn tynnu’r lleoliadau hyn oddi ar ap Connect Kerb, dros dro.

“Ni fydd gyrwyr sy’n mynychu’r safleoedd gwefru hyn yn gallu gwefru eu cerbydau hyd nes ein bod ni wedi datrys y broblem. Byddwn yn parhau i anfon diweddariadau atoch drwy gydol y broses hon wrth i ni roi ein holl ymdrech a’n holl adnoddau i sicrhau bod y pwyntiau gwefru 100% yn ddiogel.”

Ar hyn o bryd, mae hi dal yn bosib gwefru cerbydau yn y meysydd parcio canlynol:

  • Trelewis - CF46 6AB
  • Y Ganolfan Orbit - CF48 1DL
  • Santes Tudful (y Coleg)­ - CF48 1AR


Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi maes o law. Diolch.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni