Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Cyngor yn gofyn am safbwyntiau ar safle’r hen orsaf fysiau

  • Categorïau : Press Release
  • 16 Awst 2021
Aerial View 2

Mae’r Cyngor yn ymgynghori â phreswylwyr ynghylch yr hyn yr hoffent eu gweld ar safle’r hen orsaf fysiau a gaeodd ym mis Mehefin wedi i’r gyfnewidfa newydd agor ar Stryd yr Alarch.

Mae syniadau cychwynnol yn cynnwys marchnad stryd, stondinau bwyd a diod parhaol, ardaloedd chwarae ar gyfer plant ac ardal gymunedol aml-ddefnydd.

Gallai’r safle gynnwys cymysgedd o dirweddu caled a meddal, cael ei gynllunio i edrych yn dda a chael ei ddefnyddio drwy gydol y flwyddyn. Gallai gynnwys mannau glaswellt, agored er mwyn annog grwpiau bychan i gwrdd ar gyfer ymarfer, astudio neu gael picnic. Gellid hefyd cael mannau tawelach â phlanhigion er mwyn rhoi lle i bobl ymlacio a mwynhau’r safle ar lan yr afon.

Byddai gan pob prif lwybr cerddwyr fynediad gwastad a byddai’n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn a bygis plant.

Byddai’r ardal chwarae yn cael ei chynllunio ar gyfer plant ‘o bob oed a gallu gan ganolbwyntio ar chwarae ym myd natur ac annog gweithgaredd a sgiliau cydlyniant. Byddai’r offer yn herio plant, yn gorfforol ac yn cynnig elfen o gyffro – er enghraifft, llwybrau gweithgareddau pren, twmpathau a strwythurau dringo a chydbwyso.’

Gallai hefyd fod ardaloedd ar gyfer ‘profiadau synhwyraidd,’ yn cynnwys llwybrau antur gan blannu planhigion arbennig er mwyn deffro’r synhwyrau, offerynnau cerdd yn yr awyr agored a phwll tywod, hygyrch.

Byddai’r ardal gymunedol, aml-ddefnydd yn ymdebygu i ampitheatr draddodiadol ac yn cynnwys lefel uwch ar gyfer llwyfan neu blatfform perfformio.

Gallai’r ardal gefnogi amrywiaeth o weithgareddau cymunedol gan gynnwys theatr yn yr awyr agored neu gynyrchiadau cerdd, dosbarthiadau anffurfiol neu efallai ffilmiau sinema yn yr haf. Gallai’r ardal hefyd fod yn ddigon mawr i gynorthwyo digwyddiadau mwy o faint fel Gŵyl Merthyr Rising.

 “Yn dilyn agoriad y gyfnewidfa fysiau newydd, mae angen i safle’r Glastir gael ei adfywio a chael pwrpas newydd,” dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio, Trawsffurfio a Masnacheiddio.

“Rydym yn awyddus i glywed safbwyntiau preswylwyr ar yr hyn yr hoffent hwy eu gweld yno ac rydym wedi datblygu rhai syniadau cychwynnol i’w trafod. Gallai’r Goedlan Ganolog fod yn farchnad stryd brysur ar ambell ddiwrnod ond gallai hefyd gynnwys stondinau bwyd a diod parhaol,” ychwanegodd.    

“Byddai’r ardal hefyd yn annog defnydd gan y cyhoedd ac yn denu pobl i’r ardal. Byddai’r tirweddu wedi cael ei gynllunio er mwyn rhwystro ymddygiad gwrthgymdeithasol a byddai’r ardal gyfan wedi ei harwyddo a’i goleuo’n dda. Byddai’r syniadau cychwynnol hyn yn ychwanegu gwyrddni i ganol tref Merthyr.”

Mae’r digwyddiad ymgysylltu cyntaf ar y cynlluniau yn cychwyn o 16 Awst am 4 wythnos.


Nawr fod cyfyngiadau Covid-19 yn llacio, mae’r Cyngor yn ailgychwyn ymgynghgoriadau cyhoeddus wyneb yn wyneb. Bydd y lleoliad, amser a’r dyddiad yn cael eu cadarnhau faes o law.

Cynlluniau arfaethedig

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni