Ar-lein, Mae'n arbed amser

Greta ‘Bin’ Burg, Shred Sheeran a Plastic Swayze ymysg yr enwau gorau ar gyfer y fflyd ailgylchu newydd

  • Categorïau : Press Release
  • 19 Ebr 2024
Name Veh Group

Mae fflyd newydd sbon o gerbydau ailgylchu, rhai ohonynt ag enwau creadigol a doniol yn awr yn gwasanaethu preswylwyr Merthyr Tudful a hynny mewn ymdrech i godi ymwybyddiaeth o ailgylchu yn ein cymunedau.

Derbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gannoedd o gynigion. Daeth 16 i’r brig a’u gwahodd i’r Ganolfan Ailgylchu ym Mhentrebach i weld eu cerbyd a chasglu gwobr a noddwyd gan Gronfa Gymunedol  Viridor.

Mae’r enwau newydd wedi’u harddangos ar flaen pob cerbyd. Mae’r rhestr lawn i’w gweld, isod:

Pa un yw’ch ffefryn?
Eco Evan                                           
Poteli
Plastic Swayze                                  
Bio 'Dai' Gradable
Georgie Cardboardie                         
Lori Ailgylchu
Cans Solo                                          
Rosie Recycle
Redusa                                               
Tin Kardashian
Dolly Carton                                       
Shred Sheeran
Bin Crosby                                         
Laura ASHley
Adam Salvage                                   
Greta ‘Bin’ Burg

Dywedodd Judith Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdogol:
“Hoffwn ddiolch i’r preswylwyr am gystadlu ac am yr hwyl.

"Mae’n fwy pwysig nag erioed i annog a chynorthwyo’n cymunedau i ailgylchu ac mae’r gystadleuaeth nid yn unig wedi codi ymwybyddiaeth o’r flaenoriaeth hon ond wedi dod ag elfen o hwyl iddi.

"Hoffwn hefyd ddiolch i’r criwiau sydd yn gweithio’n ddiflino am eu hymroddiad a’u dycnwch wrth ddarparu gwasanaeth gwych i breswylwyr Merthyr Tudful. Mae’r ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi a’u nodi bob amser.”

Am ragor o wybodaeth ynghylch gwastraff ac ailgylchu, ewch i:
https://www.merthyr.gov.uk/resident/bins-and-recycling/

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni