Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwybodaeth rhwydwaith bysiau lleol ar gyfer Ebrill 2024

  • Categorïau : Press Release
  • 02 Chw 2024
Bus Station

Daw Cronfa Pontio Bysiau Llywodraeth Cymru, a gefnogodd wasanaethau bysiau ledled Cymru yn ystod ac ers y pandemig, i ben ar Fawrth 31ain 2024. Nid yw lefelau defnyddio bysiau yn agos at lefelau cyn-bandemig o hyd ac felly mae angen cyllid pellach i alluogi gwasanaethau presennol i parhau. Bu'n rhaid i bob awdurdod lleol dendro am y gwasanaethau hynny na fyddai'n rhedeg ar ôl Mawrth 31ain heb gymorth ariannol parhaus.

Mae’r Cyngor hwn wedi cynnal ymarfer tendro llwyddiannus yn ddiweddar a byddai’n cadarnhau, ochr yn ochr â’r gwasanaethau hynny a fydd yn parhau i redeg ar sail fasnachol, y bydd y gwasanaethau a’r gweithredwyr a ganlyn hefyd yn rhedeg o Ebrill 1af 2024 gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, drwy Ranbarth Prifddinas-Caerdydd.

 

Gwasanaeth 22 – Heolgerrig a Thwynyrodyn    Stagecoaech

Gwasanaeth 24 – Abercanaid a Phonsticill         Bysiau Mini Peter

Gwasanaeth 25 – Cefn Coed a Threfechan        Stagecoach

Gwasanaeth 33 – Galon Uchaf                         Stagecoach

 

Anogodd Arweinydd y Cyngor Geraint Thomas drigolion i ddefnyddio’r rhwydwaith bysiau – “Rydym yn ffodus iawn bod Llywodraeth Cymru drwy Ranbarth Prifddinas- Caerdydd yn parhau i gefnogi ein rhwydwaith bysiau lleol yn ariannol, ond byddwn yn annog pobl i ddefnyddio’r gwasanaethau cymaint â phosibl i sicrhau y gellir eu cynnal i’r dyfodol”.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni