Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ysgolion Merthyr Tudful yn barod i ddathlu 15 blynedd o’r her teithio llesol i’r ysgol fwyaf yn y DU

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Maw 2024
walk

Mae amser o hyd i ysgolion yn sir Merthyr Tudful gofrestru ar gyfer yr her cerdded, olwyno, sgwtera a seiclo i’r ysgol fwyaf yn y Deyrnas Unedig.

Cynhelir Stroliwch a Roliwch Sustrans rhwng 11-22 Mawrth 2024, ac mae’n ysbrydoli disgyblion i wneud siwrneiau egnïol i’r ysgol, gwella ansawdd yr aer yn eu cymdogaeth a darganfod sut mae’r newidiadau hyn o fudd i’r byd o’u cwmpas.

Yn y digwyddiad, bydd ysgolion yn cystadlu bob diwrnod o’r her i weld pwy all wneud y gyfran fwyaf o siwrneiau teithio llesol i’r ysgol, ac mae’n dathlu llwyddiannau disgyblion, rhieni ac ysgolion ar hyd holl flynyddoedd yr her ar gyfer ei 15 mlwyddiant eleni.

Cynhelir yr her gan Sustrans, yr elusen sydd â’r nod o’i gwneud yn haws i gerdded, olwyno a seiclo, mewn partneriaeth â’r prif noddwr Schwalbe Tyres UK a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Meddai Siani Colley-Nester, Cydlynydd Cwricwlwm a Chyfathrebu Sustrans Cymru: "Mae miliynau o ddisgyblion wedi derbyn yr her a chofleidio teithio llesol drwy gydol y 15 blynedd ddiwethaf o Stroliwch a Roliwch Sustrans, a dim syndod, gan fod y gystadleuaeth yn un mor hwyliog!

 “Nid yn unig y mae disgyblion a’u teuluoedd yn mwynhau pleserau taith egnïol i’r ysgol, maen nhw hefyd yn arbed arian ac yn gwella tagfeydd a’r amgylchedd o gwmpas eu hysgolion.”

Mae Stroliwch a Roliwch Sustrans yn agored i holl ysgolion cynradd ac uwchradd y Deyrnas Unedig, yn cynnwys ysgolion ADY, ac mae gwobrau i’w hennill bob dydd.

Mae adnoddau am ddim ar gael i annog disgyblion i helpu lleihau llygredd aer a dysgu am fuddion teithio llesol iddyn nhw eu hunain, eu hysgol, eu cymdogaeth a’r blaned.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni