Ar-lein, Mae'n arbed amser

Disgyblion yn dysgu sut i adeiladu pont gyda chymorth tîm yr orsaf fysiau

  • Categorïau : Press Release
  • 22 Ion 2020
Bus station have a go day

Mae peirianwyr posibl y dyfodol wedi bod yn dysgu sut i adeiladu pont gyda chymorth tîm adeiladu gorsaf fysiau newydd Merthyr Tudful.

Gwnaeth disgyblion Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair gymryd rhan mewn her tîm ‘Rhoi Cynnig Arni’ ac adeiladu fersiwn fach o Ail Bont Hafren gyda chymorth oddi wrth adeiladwyr Morgan Sindall a Sefydliad y Peirianwyr Sifil, Cymru.

Gwisgodd y plant ysgol hetiau caled, festiau gweladwy, menig a gogls i fwynhau profiad llinell flaen o adeiladu model o’r bont grog, gan gael cyfle i gerdded drosti yn ddiweddarach a phrofi eu sgiliau peirianneg.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Bartneriaeth Twf Economaidd y Cyngor Bwrdeistref Sirol a Choleg Merthyr Tudful, gyda Morgan Sindall yn darparu’r bont.

Mae’r Bartneriaeth Twf Economaidd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol, Canolfan Byd Gwaith, Gyrfa Cymru, Coleg Merthyr Tudful Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful a Tydfil Training.

Gwnaeth Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Kevin O’Neill ac Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas alw heibio i weld y gwaith yn mynd rhagddo a chawsant eu plesio gan gyflymder y disgyblion yn cwblhau’r dasg.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod y Bartneriaeth a Morgan Sindall wedi gweithio gyda’i gilydd i drefnu cyfres o ymweliadau â’r safle i ysgolion, gan roi peth gweithgareddau llawn hwyl i’r disgyblion gymryd rhan ynddynt a hefyd ysgogi diddordeb mewn peirianneg fel dewis gyrfaol posibl.

“Bydd y coleg hefyd yn gwthio, drwy gyfrwng yr ysgolion, i annog ymgysylltu â disgyblion benywaidd ac mae hefyd yn gwneud cynlluniau i drefnu ymweliad â safle’r orsaf fysiau i ferched yn unig i ddangos y cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu,” ychwanegodd.

“Gwnaeth y Bartneriaeth Twf Economaidd gydlynu cyfarfodydd rhwng Morgan Sindall a’r coleg i alluogi’r cyfleoedd ffantastig hyn i fyfyrwyr ifanc ddwyn ffrwyth.”

Dywedodd Pennaeth Gweithredol Ysgol y Santes Fair, Karen Wathan: “Rydym yn ddiolchgar i Morgan Sindall am gefnogi ein gweithgareddau STEM wrth roi’r cyfle gwych yma i’n plant gael gweld peirianneg ar waith – a gobeithio eu hannog i ddilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth.”

• Mae gorsaf fysiau newydd Merthyr Tudful yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd ar hen safle swyddfa’r heddlu yn Stryd yr Alarch, a disgwylir i’r gwaith ddod i ben yn ystod yr hydref eleni.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £10m o arian i’r Cyngor Bwrdeistref Sirol ar gyfer yr orsaf, sydd wedi ei lleoli’n nes at orsaf reilffordd y dref, er mwyn cydweddu â’i fuddsoddiad sylweddol yn Rhwydwaith Reilffordd Llinellau Craidd y Cymoedd.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni