Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwneud cais am Drwydded Fan neu Drelar
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am Drwydded Fan neu Drelar.
Bydd angen rhif cofrestru y cerbyd wrth gwblhau'r ffurflen
Am fwy o wybodaeth ar sut i wneud cais am drwydded fan neu drelar cyfeiriwch at ein Canllaw Canolfan Ailgylchu a Gwastraff Cartref
Pwy all wneud cais am Drwydded Fan neu Drelar?
Gall unrhyw breswylydd o Fwrdeistref Sirol Merthyr wneud cais.
Pryd sydd angen i mi Ymgeisio?
Rhaid gwneud cais am Drwydded Trelar cyn gwaredu gwastraff yn y Canolfannau.
Sut i Ymgeisio
Gellir gwneud cais am Drwydded ar-lein, 24 awr y dydd.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd Gwasanaethau Gwastraff yn gwirio’ch cais ac yn ei gymeradwyo neu ei wrthod.
Os gaiff ei gymeradwyo, bydd Swyddogion Safle’r Canolfannau yn cael ei chynghori.
Beth ydw i'w angen i fynd i’r GAGC?
Rhaid darparu tystiolaeth cyfeiriad a Gwybodaeth Bersonol a bydd staff y GAGC yn gwirio gyda gwybodaeth ar y drwydded. Nodwch fod Trwydded Yrru yn cynnwys llun yn gymwys fel tystiolaeth cyfeiriad a gwybodaeth bersonol.
Gall staff y GAGC wrthod derbyn unrhyw eitemau nad ydynt yn teimlo eu bod yn addas.
Beth yw cost Trwydded?
Mae Trwyddedau am ddim.
Gwastraff Masnachol
Os ydych chi’n cael gwaith wedi ei wneud gan berson/adeiladwr/cwmni preifat arall masnachol, dylech wneud yn siŵr fod sgip wedi cael ei logi i waredu unrhyw wastraff a gynhyrchir. Eich sgip chi ydyw a’ch cyfrifoldeb chi yw sicrhau ei fod yn cael ei waredu’n gyfreithlon.