Ar-lein, Mae'n arbed amser

Premiymau’r Dreth Gyngor

Yn unol ag adran 12a a 12b, Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fel sydd wedi eu mewnosod yn Adran 139, Deddf Tai (Cymru) 2014, mae’r Cyngor wedi pennu y dylid codi premiymau’r Dreth Gyngor fel y manylir isod:  

Premiwm – eiddo gwag, hirdymor

Os yw’r annedd yn wag ac nad yw’n cynnwys dodrefn bydd wedi’i eithrio am y 6 mis cyntaf o’r dyddiad yr oedd y tŷ heb ei ddodrefnu. Wedi i’r cyfnod hwn ddod i ben, ni fydd gostyngiad yn cael ei ganiatáu a bydd taliad llawn y Dreth Gyngor yn daladwy. 

Os bydd yn parhau i fod yn wag am 6 mis pellach (12 mis o’r dyddiad yr oedd yn wag,) mae Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn rhoi darpariaeth ddisgresiynol i gynghorau godi “premiwm” o hyd at 300% ar eiddo gwag, hirdymor.

Yng Nghyfarfod Llawn y Cyngor ar 8 Mawrth 2023, pennwyd y dylid codi premiwm o 100% o’r Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/2024. 

Premiwm – Eiddo sydd yn wag, yn achlysurol

Diffinnir ail gartref fel annedd sydd wedi'i ddodrefnu'n llawn ac nad yw'n unig breswylfa nac yn brif breswylfa'r perchennog. Cyfeirir ato mewn deddfwriaeth fel annedd a ddefnyddir yn achlysurol.

Polisi cyfredol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yw peidio dyfarnu unrhyw ostyngiadau i berchnogion ail dai. Ar hyn o bryd, mar perchnogion ail dai yn gymwys ar gyfer 100% o’r Dreth. Gyngor (h.y. y gyfradd sylfaenol) a bydd hyn yn parhau hyd at 31 Mawrth 2024.

Yng Nghyfarfod Llawn y Cyngor ar 8 Mawrth 2023, pennwyd y dylid codi premiwm o 100% o’r Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/2024. 

Ar 2 Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganlyniadau ymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail dai a llety hunan-arlwyol. O ran uchafswm y lefel y gall awdurdodau lleol osod premiymau y dreth gyngor ar ail gartrefu ac anheddau gwag, hir dymor, cyflwynwyd deddfwriaeth newydd a ddaeth i rym o 1 Ebrill 2023, yn caniatau i’r premiymau godi  hyd at  300%. Gellir gweld y manylion llaw a chanlyniadau’r ymgynghoriad ar  newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru ar https://gov.wales/written-statement-summary-responses-consultation-local-taxes-second-homes-and-self-catering

Eithriadau i’r Premiwm

Mae eithriadau rhag talu’r premiymau ar dai gwag, hirdymor ac ail dai yn cael eu rhestri isod:

  • Dosbarth 1 - Anheddau sydd yn cael eu marchnata i fod ar werth – cyfyngiad amser o flwyddyn
  • Dosbarth 2 - Anheddau sydd yn cael eu marchnata i’w gosod - cyfyngiad amser o flwyddyn
  • Dosbarth 3 - Anecsau sydd yn ffurfio rhan neu sydd yn cael eu trin fel rhan o’r brif annedd
  • Dosbarth 4 - Anheddau fyddai’n brif neu’n unig breswylfa os na fyddai’r preswylydd yn byw yn un o anheddau’r lluoedd arfog
  • Dosbarth 5 - Lleiniau carafanau ac angorfeydd cychod
  • Dosbarth 6 - Mae amodau cynllunio yn gwahardd preswylio trwy gydol y flwyddyn neu’n barhaol neu’n nodi llety gwyliau yn unig.
  • Dosbarth 7 - Anheddau sydd yn gysylltiedig â swydd.
  • Dosbarth 8 – Eithriad Lleol i berchnogion newydd sy'n dod â'r eiddo yn ôl i ddefnydd ac eiddo cyfansawdd

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynghylch Premiymau’r Dreth Gyngor, cysylltwch â’r Adran Refeniw drwy e-bostio revenues@merthyr.gov.uk neu ffoniwch 01685 725000.

Tai gwag – pa gymorth sydd ar gael

Os oes gennych dŷ gwag ac yr hoffech wneud defnydd ohono ond fod angen cymorth arnoch, cysylltwch â Melissa Clee yn Adran Iechyd yr Amgylchedd ar 01685 725000 am ragor o wybodaeth.

Am ragor o ganllawiau ynghylch y Dreth Gyngor ar dai gwag ac ail gartrefu: Treth Gyngor ar dai gwag ac ail gartrefi | LLYW.CYMRU