Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cronfa Atal Digartrefedd

Pwrpas y gronfa hon yw ychwanegu at gronfeydd disgresiynol atal digartrefedd y mae’r Awdurdod Lleol yn eu defnyddio ar hyn o bryd er mwyn atal neu liniaru digartrefedd. 

Gall yr arian disgresiynol hyn gael ei ddefnyddio mewn modd hyblyg, yn unol â meini prawf yr Awdurdod Lleol a’r bwriad cyffredinol yw atal digartrefedd.

Gall yr arian dalu am fesurau ataliaeth a rhyddhad sydd wedi eu cynnwys yn fframwaith rheolau a chyfreithiau cyfredol yr Awdurdod. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys:

  • Talu rhent, o flaen llaw neu gynnig gwarant rhent i ddiogelu tenantiaeth ar gyfer unigolyn.
  • Talu am ôl daliadau rhent fel rhan o’r pecyn gweithredu i gynnal tenantiaeth (pan na fydd cymhwysedd ar gyfer Taliadau Tai Disgresiynol.)
  • Cynorthwyo i ariannu atgyweiriadau i eiddo yn sgil niwed a achoswyd gan denant fel rhan o becyn i atal troi allan.
  • Talu am weithgareddau disgresiynol neu eitemau i gynorthwyo ag ymgysylltu unigolyn ar gyfer darpariaeth i gynnal tenantiaeth.

Nodwch mai enghreifftiau yn unig yw’r rhain ac nid yw’n rhestr gyflawn – dylai awdurdodau lleol bennu’r hyn sydd yn addas ar gyfer arian disgresiynol er mwyn atal neu ryddhau digartrefedd gan weithio oddi fewn i’w rheolau a’u fframweithiau cyfreithiol.

Am ragor o wybodaeth, siaradwch ag aelod o’r tîm yn yr Hyb, 13A Lôn yr Ysgub Wenith, Merthyr Tudful, CF47 8AY (y drws nesaf i siop sglodion The Busy Bee) neu e-bostiwch HousingGateway@merthyr.gov.uk

Amseroedd agor yr Hyb yw  - Dydd Llun i Ddydd Gwener (9:30am – 12:00pm a 1:00pm - 4:00pm)

Cysylltwch â Ni