Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: Prif Swyddog Cyllid (Swyddog Adran 151)
Cyfeirnod y swydd: RE-1618
Cyflog:
Graddfa Swydd: AVAILABLE ON REQUEST
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Y Ganolfan Ddinesig / Civic Centre
Arbenigol:
Swyddog Adran 151 yr Awdurdod o dan Adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sy’n gyfrifol am drefniadau’r Awdurdod ar gyfer gweinyddu yn briodol ei faterion ariannol.
Yn aelod allweddol o Dîm Rheoli Corfforaethol yr Awdurdod sy’n helpu i ddatblygu a gweithredu strategaeth ac i ddarparu adnoddau ar gyfer amcanion strategol y sefydliad a’u cyflawni’n gynaliadwy ac er budd y cyhoedd.
Yn adrodd i'r Prif Weithredwr, bydd y rôl strategol hanfodol hon yn darparu arweinyddiaeth weledigaethol ac effeithiol i dimau ariannol o fewn y Gyfarwyddiaeth Llywodraethu ac Adnoddau. Bydd deiliad y swydd yn arwain yr adran gyllid i sicrhau y darperir cefnogaeth gorfforaethol o ansawdd uchel i'r Cyngor. Bydd yn galluogi cyflawni agenda uchelgeisiol y Cyngor, drwy ryngweithio â staff, aelodau etholedig a rhanddeiliaid eraill.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Prif Weithredwr Ellis Cooper drwy e-bostio maria.price@merthyr.gov.uk
Rhaid i bob ymgeisydd newydd gwblhau cwrs Gwaith Cymraeg arlein 10 awr. Rhaid cwblhau rhan 1 a 2 o’r cwrs a dangos tystiolaeth o hyn cyn dechrau gweithio gyda’r Awdurdod. Am wybodaeth bellach am sut i gwblhau’r cwrs hwn ewch i: https://learnwelsh.cymru/
MEINI PRAWF HANFODOL
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol
Gwnewch gais ar-lein - www.merthyr.gov.uk
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 17.05.2024 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Rydym yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynharach na'r dyddiad cau.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau oddi wrth siaradwyr Cymraeg. Gellir cyflwyno ffurflenni cais yn y Gymraeg a ni chaiff unrhyw gais a gaiff ei gwblhau yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol mewn unrhyw ffordd na’r rheini a gyflwynir yn Saesneg.
Os byddwch yn llwyddiannus i gael eich rhoi ar restr fer ar gyfer cyfweliad, cysylltwch â human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk i roi gwybod os hoffech i’r cyfweliad gael ei gynnal yn y Gymraeg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.