Ar-lein, Mae'n arbed amser
Partneriaeth Gyflogadwyedd
Cydlynir y Bartneriaeth Gyflogadwyedd yn yr Adran Adfywio Cymdeithasol Oedolion a theuluoedd a’i nod yw helpu pobl leol i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n llesol i’w hiechyd a’u hannog i ddysgu er mwyn cefnogi’r agenda cyflogaeth.
Beth yw Cyflogadwyedd?
Cyflogadwyedd yw’r cyfuniad o ffactorau a phrosesau sy’n galluogi pobl i wneud cynnydd tuag at gyflogaeth, aros mewn cyflogaeth a symud ymlaen yn y gweithle.
Efallai’ch bod hefyd wedi clywed am y term bod heb waith sy’n llai cyfarwydd na chyflogadwyedd/diweithdra i ddisgrifio’r rheini nad ydynt yn actif yn economaidd. Pobl nad ydynt yn actif yn economaidd yw’r rheini o oedran gweithio nad ydynt yn gweithio, nac mewn addysg amser llawn na hyfforddiant ac nad ydynt yn chwilio am waith.
Mae llawer o bobl ddi-waith yn wynebu rhwystrau llawer mwy nag eraill o ran cael mynediad i fyd gwaith a symud ymlaen ynddo. Mae llawer y tu allan i’r farchnad lafur a gall yr achos fod yn eithaf cymhleth yn aml. Mae rhai o’r rhwystrau hyn yn cynnwys yn nodweddiadol y rhesymau canlynol y mae’n rhaid i unigolion eu gorchfygu cyn dychwelyd i’r gweithle:
- diffyg hyder a hunan-barch
- bylchau ar eu CV
- profiadau gwael o waith
- diffyg geirdaon
- pryder uchel
- diffyg profiad gwaith diweddar
- diffyg stamina
- diffyg sgiliau cyflogadwyedd craidd diweddar
- diffyg ymwybyddiaeth o ddisgwyliadau cyflogwyr
- stigma ynglŷn â phroblemau iechyd meddwl.
Efallai bod angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol ar rai unigolion i elwa ar fuddion gwaith y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol. Gall eraill hefyd berthyn i grwpiau blaenoriaeth dynodedig i dderbyn cymorth trwy raglenni cyflogadwyedd, gan gynnwys:
- rhieni sengl
- pobl ag anableddau
- pobl â phroblemau iechyd meddwl
- pobl ddiwaith hirdymor
- pobl ifanc sy’n gadael gofal
- cyn-droseddwyr.
Beth sy’n digwydd yn lleol i ymdrin â chyflogadwyedd?
Deallir yn eang y gall dysgu a chyflogaeth agor y drws i ansawdd bywyd gwell. Mae’r Grŵp Llywio Cyflogadwyedd yn bartneriaeth amlasiantaeth sefydledig sydd wedi parhau i weithio ar y cyd a chyflawni ymrwymiad cadarn gan bartneriaid sy’n cefnogi pobl leol i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n llesol i’w hiechyd, yn annog dysgu ac yn cydweithio’n weithredol i gefnogi’r agenda cyflogaeth.
Dros y blynyddoedd rydym wedi ymgymryd â llawer o fentrau sydd wedi canolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau i ddod o hyd i ddatrysiadau i faterion lleol Cyflogadwyedd, ac mae gennym ddealltwriaeth dda o’r hyn sy’n gweithio.
Wynebodd y Grŵp Llywio Cyflogadwyedd ei her fwyaf yn ddiweddar ers ei gychwyn gyda chyflwyniad Rhaglen Waith Diwygio Lles a’r newid sydd ar y gweill i Gredyd Cynhwysol a fydd yn newid yn hanfodol sut y gweinyddir cynllunio gwasanaethau.
Mae’r grŵp yn parhau i weithio ar y cyd yn wyneb yr heriau newydd hyn ac mae wedi esblygu i gynnwys dau brif gontractwr y rhaglen waith i alluogi cynllunwyr gwasanaethau allweddol i gydweithio a monitro perfformiad i gefnogi’r amgylchedd newidiol hwn.
Beth yw nod y Grŵp Llywio Cyflogadwyedd?
Prif darged y Grŵp Llywio Cyflogadwyedd yw gwella sgiliau gwaith preswylwyr (oedolion a phobl ifanc) a datblygu mecanweithiau cefnogi gwell er mwyn iddyn nhw ennill a chynnal cyflogaeth.
Pwy yw partneriaid y Grŵp Llywio Cyflogadwyedd?
Mae’r Grŵp Llywio Cyflogadwyedd yn tynnu ynghyd partneriaid o amryw adrannau a sefydliadau sy’n ymroddedig i weithio mewn partneriaeth i gyflwyno’r canlyniadau gorau i unigolion:
- Adfywio Cymdeithasol Oedolion a Theuluoedd
- Pontydd i Waith
- Canolfan Byd Gwaith
- Gyrfa Cymru
- 14-19 Network
- Canolfan Blant Integredig
- Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
- Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol
- Coleg Merthyr
- Cymdeithas Dai Merthyr Tudful
- Gwasanaethau Adfywio Cymdeithasol Ieuenctid a Theuluoedd
- 3G’s Development Trust
- Cymorth Aml Ymyrraeth Teuluoedd yn Gyntaf
- Dysgu Teulu ac yn y Gymuned
- Adran Mynediad a Chynhwysiad Ysgolion
- Rehab/JobFit
- Working Links
- Adran Adfywio Economaidd
- Tydfil Training
- Merthyr Tydfil Institute for the Blind
- Princes Trust
- Learn About Us
- National Training Federation Wales
- Llamau
- Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful
- Ground Work Trust
- Merthyr Valleys Homes
- UHOVI
- Want 2 Work
- Merthyr Valley’s MIND
- Adfywio Cymdeithasol Blaenau Gwent
- Talk Training
Beth yw nodau allweddol y cynllun?
Nodau allweddol y cynllun yw:
- Nod 1: Gwella’r dull cydweithredol gyda’r sector cyhoeddus, gwasanaethau’r sector preifat a’r trydydd sector i gynyddu gweithgarwch economaidd a mynd i’r afael â thlodi ym Merthyr Tudful.
- Nod 2: Cefnogi pobl i ennill a chynnal cyflogaeth i oedolion a phobl ifanc.
- Nod 3: Datblygu a gwella cyflogadwyedd oedolion a phobl ifanc yn arbennig o ran sgiliau, cymwysterau a pharodrwydd i weithio.
- Nod 4: Cefnogi dull Tîm o amgylch y Busnes i leihau cystadleuaeth ddiwerth (ymgysylltiad cyflogwyr).
Sut byddwn yn mesur perfformiad?
Caiff y cynllun cyflogadwyedd ei fonitro trwy system Rheoli Perfformiad Ffynnon Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn helpu i hysbysu cynnydd yn y dyfodol yn erbyn targedau i fonitro cyflawniad yn effeithiol.
Am ragor o wybodaeth am waith y Grŵp Llywio Cyflogadwyedd, cysylltwch â ni â’r manylion isod.