Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gorfodi

Cynllun Rheoli Rhwydwaith Priffyrdd

Prif amcan y Cynllun yw llunio polisi ar gyfer yr holl weithgareddau cynnal a chadw priffyrdd a wneir a darparu testun cyfair ysgrifenedig ar gyfer swyddogion yn Adran Cynnal a Chadw Priffyrdd yr Adran Gwasanaethau Peirianneg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Mae Swyddogion Tîm Priffyrdd yn cyflawni llawer o ddyletswyddau a swyddogaethau o ran rheoli’r rhwydwaith priffyrdd presennol i sicrhau cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol gan y sawl y mae’u gweithgareddau’n amharu ar y briffordd gynaliadwy. Nod y Cynllun yw cofnodi arferion a gweithdrefnau’r amrywiaeth eang o ddyletswyddau a swyddogaethau y mae’r Adran Cynnal a Chadw’r Priffyrdd yn eu cyflawni fel rhan o’i weithgareddau dyddiol.

Mae’r Cynllun Rheoli’r Rhwydwaith Priffyrdd yn gwneud yn iawn am y diffyg mawr o ran y ddogfennaeth gyfair sydd ar gael ar gyfer gweithgareddau rheoli’r priffyrdd sy’n rhan fawr o’r diwrnod gwaith, yn ogystal â darparu gwybodaeth y mae angen mawr amdani er mwyn ymsefydlu staff presennol a newydd eu penodi. Mae’r rhwydwaith priffyrdd yn hanfodol i bobl Merthyr Tudful, i’r rheini sy’n byw ac yn gweithio yma a’r rheini sy’n ymweld ac yn buddsoddi yn y lle.

Mae rheoli a chynnal a chadw’r briffordd yn dasg gynyddol heriol wrth ystyried yr agen i liniaru effeithiau difrod a achosir gan lif traffig cynyddol, cerbydau trymach a mwy a gweithgarwch mwy gan gwmnïau gwasanaeth pan fo cyllidebau refeniw, mewn termau real, wedi gostwng.

Bwriedir i set sefydledig o arferion a gweithdrefnau ddod â dull cyson gan yr holl aelodau staff sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau hyn, gan egluro gogwydd a safle’r Awdurdod ar y materion hyn i bawb. Mae’r fformat a fabwysiadwyd sy’n ymgorffori llythyron a dogfennau safonol yn darparu gwasanaeth mwy effeithiol ac effeithlon i gwsmeriaid ac yn cyflawni ymrwymiadau’r Awdurdod Priffyrdd yn gywir.

Dylai’r ddogfen hon, ynghyd â dogfennau parod eraill, e.e.

(a) Deddf Priffyrdd 1980
(b) Cod Ymarfer ar gyfer Rheoli Gwaith Cynnal a Chadw
(c) Cynllun Cynnal a Chadw’r Gaeaf
(ch) Dogfennaeth contract ar gyfer gwaith tendr allanol
(d) Manyleb ar gyfer Gwaith Priffyrdd
(dd) Polisi Goleuadau Stryd
(e) Llawlyfr Gweithdrefn Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991
(f) Deddf Rheoli Traffig 2004

roi’r mwyafrif o’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn i’r Adran Cynnal a Chadw’r Priffyrdd gyflawni’i dyletswyddau.

I weld y Cynllun Rheoli’r Rhwydwaith Priffyrdd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion ar waelod y dudalen.

Cysylltwch â Ni