Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cau Ffordd yn Barhaol
Am unrhyw geisiadau ynghylch Cau Ffordd yn Barhaol, defnyddiwch eich ffurflen gais ar-lein.
Mae Deddf Priffyrdd 1980 a Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn rhoi’r awdurdod i’r Cyngor gau ffyrdd yn barhaol.
Mae Adran 116 Deddf Priffyrdd 1980 yn caniatáu Cau Priffordd gan y Llys Ynadon ar yr amod eu bod yn fodlon nad yw’n angenrheidiol, neu y gellir ei dargyfeirio er mwyn ei gwneud yn nes ac yn fwy eang i’r cyhoedd.
Bydd angen i ymgeisydd wneud cais i’r Cyngor i ymgeisio am Orchymyn oddi wrth y Llys Ynadon.
Adran 247 Deddf Gwlad a Thref 1990. Cau Priffordd gan Lywodraeth Cymru yw hyn i alluogi datblygiad i ddigwydd.