Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwrychoedd uchel

Mae gwrych da yn fuddiol iawn fel ffin mewn gardd. Mae'n hidlwr tywydd a llwch da, yn rhad i'w greu ac yn para'n hir. Gall annog bywyd gwyllt a gall fod yn nodwedd o harddwch a diddordeb. Mae hefyd yn cynnig preifatrwydd a diogelwch, ond fe all problemau godi os fydd gwrych yn tyfu'n afreolus.

Fel arfer 'does dim angen caniatâd ar bobl i blannu gwrych yn eu gardd ac nid oes rhwystrau cyffredinol ar ba mor uchel y gall gwrych dyfu.  Nid yw'r rheolau sy'n berthnasol i uchder waliau a ffensys terfyn yn berthnasol i wrychoedd.   Mae hawliau'r gyfraith gyffredin yn rhoi'r hawl i bobl dorri canghennau crog yn ôl i'r llinell derfyn, ond nid ydynt yn berthnasol i uchder gwrych.  Gall darpariaethau yn adran 198(6)(b) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fod yn berthnasol, yn arbennig i rannau crog coed gwarchodedig h.y. coed mewn Ardal Gadwraeth neu sy'n destun gorchymyn cadw coed.

Os oes rhywun yn bryderus am wrych cymydog, y ffordd orau i drin y mater yw siarad â nhw a cheisio cytuno ar sut i ddatrys y broblem. 

Os na fydd trafod yn gweithio, mae gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru rymoedd i ymrin â chwynion am wrychoedd uchel dan Adran 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrth Gymdeithasol 2003 ("y Ddeddf").

 

Cysylltwch â Ni