Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyfarpar ac addasiadau

Therapi Galwedigaethol Cymunedol

Beth yw Therapi Galwedigaethol Cymunedol?

Mae ein Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn gweithio â phobl o bob oed sydd wedi cael eu hasesu i fod yn gymwys am Ofal a Chymorth.

Nod y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yw galluogi, cefnogi a hyrwyddo annibyniaeth yn y cartref fel eich bod chi’n gallu parhau i wneud eich gweithgareddau o ddydd i ddydd fel ymolchi a gwisgo. Gallwn roi cymorth i chi wneud hyn drwy ddarparu cymhorthion, offer a ble y bo’n angenrheidiol cyngor ar addasu eich cartref.

Os ydych yn gymwys am gymorth, bydd aelod o’r tîm yn cwrdd â chi i drafod yr hyn sy’n bwysig i chi a pha ganlyniadau yr hoffech eu cyflawni. Yna bydd yr aelod o’r tîm yn trafod yr hyn yr ydych yn gallu ei wneud drosoch chi eich hun, a chanfod y pethau a fydd yn eich atal rhag cyrraedd eich canlyniadau, annibyniaeth a lles personol.

Mae’r cymorth y gallwn ei ddarparu yn cynnwys offer neu addasu eich cartref mewn ffyrdd a fydd yn eich galluogi chi i aros yn eich cartref eich hun. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn rhoi cyngor i chi am y dewisiadau sydd gennych wrth ystyried symud i lety mwy addas.

Darparu Offer

Ceir amrywiaeth o offer a allai eich helpu chi i fod yn fwy annibynnol. Gall hyn amrywio o ddarnau o offer y gallwch eu prynu eich hun oddi wrth fanwerthwyr lleol, fel golchwr cefn â braich hir, a hoist arbenigol a fydd yn eich helpu i symud o un ardal o’ch cartref i un arall.

Nid yw bob amser yn glir pa ddarn o offer fyddai’n gweddu eich anghenion orau. Os oes angen cyngor arnoch am y mathau o offer sydd ar gael a beth fyddai’n fwyaf priodol i chi, yna gallwch gysylltu â’r Swyddog Dyletswydd Oedolion ar 01685 724500 a fydd yn rhoi cyngor i chi neu yn eich cyfeirio chi at y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol am asesiad.

Ar ôl cwblhau’r asesiad, ac os ydych yn gymwys am gymorth yna bydd yr offer priodol yn cael ei archebu ar eich rhan a’i anfon i’ch cartref. Neu, gallwch ddewis defnyddio Taliad Uniongyrchol.

Rhif 24: Uned Arddangos ac Asesu ym Mharc Iechyd Keir Hardie

Mae’n bosibl y byddwch eisiau gweld sut beth yw’r offer cyn ei brynu neu ei osod yn eich cartref. Gallwch drefnu ymweliad â chyfleuster Arddangos ac Asesu er mwyn gwneud hynny yn ym Mharc Iechyd Keir Hardie, Merthyr Tudful.

Bydd hyn yn sicrhau fod yr offer yn fuddiol ac yn diwallu eich anghenion. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddog Dyletswydd Oedolion (gweler manylion isod)

Technoleg Cynorthwyol a Theleofal

Teleofal

Mae amrywiaeth o sensoriaid Teleofal, na fyddech yn sylwi arnynt, sy’n cynnig modd o reoli’r risgiau i’ch iechyd ac amgylchedd eich cartref 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, gan eich galluogi i fyw’n annibynnol gyhyd ag sy’n bosibl. Yn ei ffurf symlaf, mae Teleofal wedi ei gysylltu â chanolfan monitro sy’n eich galluogi chi i roi gwybod am argyfwng. Mae systemau mwy cymhleth yn defnyddio sensoriaid, ble mae amrywiaeth o risgiau posibl yn gallu cael eu monitro. Gall y rhain gynnwys cwympo, yn ogystal â neiwdiadau amgylcheddol yn y cartref fel llifogydd, tân a gollyngiadau nwy. Pan fo sensor yn cael ei actifadu mae’n anfon signal rhybuddio at uned ganolog o’ch cartref, sydd yna’n galw’r ganolfan fonitro’n awtomatig 24 awr y dydd, ble y gall swyddogion hyfforddedig benderfynu ar weithredu priodol - boed yn cysylltu â deiliad allwedd lleol, aelod o’r teulu, meddyg neu’r gwasanaethau argyfwng.

Gall Teleofal hefyd ddarparu cymorth i bobl ag anabledd corfforol neu ddysgu, sy’n fregus, yn dueddol o gwympo, dementia, pobl sy’n dioddef o epilepsi a’r rhai â salwch cronig – yr hen a’r ifanc.

Gall hefyd fod o gymorth i ddioddefwyr trosedd mewn modd sy’n eu gwneud i deimlo’n ddiogel a saff yn eu cartrefi, un ai i atal trosedd drwy osod dyfais galwr ffug, neu os ydynt eisoes wedi dioddef o drosedd, yna bydd y dechnoleg hon yn rhoi tawelwch meddwl wrth wybod y gallant gael yr help sydd ei angen o fewn eiliadau.
Mae Teleofal yn wasanaeth 24/7 sy’n gysylltiedig â system larwm bywyd, cyfyngder/lifeline.

Mae Teleofal yn cael ei osod drwy linell ffôn BT, felly rhaid bod Llinell tir gan y cartref.

Os hoffech weld sut mae’r rhain yn gweithio, maen nhw ar gael yn yr Uned Arddangos ac Asesu, sef ‘Rhif 24’ ym Mharc Iechyd Keir Hardie. Yn Rhif 24 ceir nifer o ystafelloedd arddangos yn cynnwys ystafell wely, ystafell ymolchi, cegin ac ystafell fyw; mae holl offer Teleofal i’w gweld yma a chymhorthion byw bob dydd hefyd. Ymhlith yr enghreifftiau o’r rhain mae dosbarthydd meddyginiaeth, sensoriaid llifogydd, cwympiadau, epilepsi, lifft bath a lifft grisiau. Mae’r uned yn arddangos amrywiaeth o ddyfeisiadau diogelwch hefyd i weddu amrywiaeth o anghenion e.e. rheiliau gafael, rheiliau grisiau, sêff allweddi, ffenest fach drws ayb. Mae diogelwch yn hanfodol i bawb bellach, a bydd y dyfeisiadau sy’n cael eu harddangos yn eich helpu i deimlo’n ddiogel ac yn saff yn eich cartref.

Mae amrywiaeth o offer synhwyro ar gael ac wrth i dechnoleg wella mae’r amrywiaeth hwn o offer yn ehangu. I bobl â nam synhwyraidd gall y rhain gynnwys deialau Braille ar ficrodon a ffonau wedi eu haddasu i’r rheini â nam ar eu clyw. Mae Gwasanaeth Synhwyro arbenigol ar gael (Link to sensory service) ble fydd Gweithwyr Cymdeithasol arbenigol yn gallu darparu cyngor a rhaglenni adferiad.

‘Rhif 24’ yw’r uned Arddangos ac Asesu ym Mharc Iechyd Keir Hardie. Mae gan Rif 24 amrywiaeth o offer synhwyro i chi gael golwg arnynt a gweld sut maen nhw’n gweithio i’ch cynorthwyo chi yn eich bywyd bob dydd.

Mae croeso i chi ymweld â’r uned asesu a phrofi’r offer sydd yn cael ei arddangos cyn iddo gael ei osod yn eich cartref. Caiff cyngor a gwybodaeth eu rhoi drwy gydol yr ymweliad a gellir gwneud apwyntiad am asesiad os yw’n ofynnol drwy gysylltu â’r Swyddog Dyletswydd Oedolion (gweler manylion isod).

Amser Agored Galw Heibio

Cysylltwch â’r Swyddog Dyletswydd i drefnu ymweliad fel eu bod yn gallu sicrhau bod rhywun ar gael i’ch tywys o gwmpas.

Addasiadau i’r Cartref

Er mwyn i chi barhau i fod yn annibynnol yn eich cartref, mae’n bosibl y bydd angen addasiadau arnoch fel rheiliau llaw ar y grisiau neu wrth y drws; neu newidiadau mawr i’ch cartref fel addasu’r ystafell ymolchi yn ystafell wlyb.

Gallwch drefnu ar gyfer addasiadau llai drwy Gofal ac Atgyweirio; fodd bynnag, os oes angen addasiadau mwy ar eich cartref bydd angen i chi gael eich asesu gan Therapydd Galwedigaethol Cymunedol i ddechrau, a allai wedyn argymell eich bod yn gwneud cais am Grant Cyfleusterau Anabl.

Cysylltwch â ni:

Swyddog Dyletswydd i Oedolion
Parc Iechyd Keir Hardie
Ffordd Aberdâr
Merthyr Tudful
CF48 1BZ

Ffôn: 01685 725000
E-bost: adult.intakeservice@merthyr.gov.uk

Oriau Agor

8.30yb - 5.00yp Dydd Llun - Dydd Iau
8.30yb - 4.30yp Dydd Gwener

DEWIS Cymru

Cysylltwch â Ni