Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyngor a chefnogaeth ar alcohol

Beth yw’r unedau dyddiol a argymhellir o ran alcohol?

Gall yfed llai na’r unedau dyddiol a argymhellir leihau risg problemau iechyd yn y dyfodol.

  • Ni ddylai dynion yfed mwy na 3 - 4 uned y diwrnod yn rheolaidd.
  • Ni ddylai menywod yfed mwy na 2 - 3 uned y diwrnod yn rheolaidd.

 

Dylech roi diwrnodau rhydd rhag alcohol yn rheolaidd i’ch corff.

Beth yw unedau?

Mae unedau’n ffordd syml o fynegi faint o alcohol pur sydd mewn diod. Mae nifer yr unedau mewn diod wedi’i seilio ar faint y ddiod yn ogystal â chryfder yr alcohol.

 

O ble ydw i’n gallu cael cyngor a chefnogaeth leol i leihau neu atal yfed?

Manylion Cyswllt Defnyddiol

  • Uwch Swyddog Ieuenctid a Chymuned, 01685 727082
  • Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol, 01685 721991
  • Drugaid, Richard Broadway, 01685 721991 neu Richard.Broadway@drugaidcymru.com

DEWIS Cymru

Cysylltwch â Ni