Ar-lein, Mae'n arbed amser

Beth os ydw i'n methu â gwneud penderfyniadau?

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn effeithio ar bobl 16 oed a hŷn ac yn darparu fframwaith i amddiffyn pobl sydd efallai’n methu â gwneud penderfyniadau i’w hunain. Gallai diffyg galluedd fod oherwydd anabledd dysgu difrifol, dementia, problemau iechyd meddwl, anaf i’r ymennydd, strôc neu anymwybyddiaeth yn sgil anaesthetig neu ddamwain neu anaf sydyn.

Beth mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn ei wneud?

Mae’n darparu canllawiau clir i ofalwyr a gweithwyr proffesiynol ynglŷn â phwy all wneud penderfyniadau ar ran rhywun â diffyg galluedd ym mha sefyllfaoedd a sut y dylen nhw wneud hyn. Mae’n cyflwyno Cod Ymarfer i bobl megis gweithwyr gofal sy’n cefnogi pobl sydd wedi colli’r gallu i wneud eu penderfyniadau’u hunain.

Ei nod yw amddiffyn oedolion ag anallu meddyliol i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir ar eu rhan er eu lles nhw. Mae’r Ddeddf yn datgan y dylid trin pawb fel eu bod yn gallu gwneud eu penderfyniadau’u hunain hyd nes y dangosir nad ydyn nhw’n gallu gwneud hyn. Ei nod hefyd yw galluogi pobl i wneud eu penderfyniadau’u hunain cyhyd ag y gallan nhw wneud.

Sut mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn gweithio?

Mae’n galluogi pobl i flaengynllunio ar gyfer adeg pan allent fethu ar y gallu trwy eu galluogi i ddyfarnu Atwrneiaeth Arhosol (Atwrneiaeth Barhaus yn flaenorol). Bydd hyn yn rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i bobl sy’n agored i niwed ar eu dyfodol ac yn eu galluogi i ddewis rhywun maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw i ofalu am eu pethau pan nad ydyn nhw’n gallu penderfynu’u hunain.

Bydd angen i Atwrneiaeth Arhosol gofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a phe cânt eu cymeradwyo, byddan nhw’n gallu gwneud penderfyniadau am eiddo a materion (gan gynnwys materion ariannol), a/neu driniaeth gofal iechyd.

Mae’r Ddeddf hefyd wedi creu dulliau diogelu cyfreithiol a ddyluniwyd i atal twyll a cham-drin:

  • Bydd Y Llys Gwarchod yn gallu gwneud penderfyniadau terfynol am a oes diffyg gallu gan rywun, gall wneud penderfyniadau pwysig ar eu rhan a gall benodi dirprwyon i wneud penderfyniadau ar ran rhywun.
  • Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn goruchwylio Atwrneiaeth Arhosol ac Atwrneiaeth Barhaol, yn goruchwylio dirprwyon, yn cefnogi’r Llys Gwarchod ac yn rhoi arweiniad ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol i’r cyhoedd.
  • Trosedd o drin yn wael neu esgeuluso’n fwriadol rhywun â diffyg galluedd.
  • Gweithdrefnau a dulliau diogelu newydd sy’n cynnwys pobl yn ymchwilio pan fo diffyg gallu i roi caniatâd.

Beth os does gen i neb i fy helpu i wneud penderfyniadau pwysig pan dydw i ddim yn gallu gwneud?

Sefydlodd y Ddeddf Galluedd Meddyliol wasanaeth Eirioli Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol. Mae’r gwasanaeth yn helpu pobl sy’n agored i niwed sy’n methu â gwneud rhai neu’r holl benderfyniadau pwysig am eu bywydau.

Bydd y gwasanaeth Eirioli’n golygu y gall pobl benodol â diffyg galluedd - gall hyn gynnwys pobl â dementia, afiechyd Alzheimer, anaf i’r ymennydd neu anabledd dysgu difrifol - yn cael cymorth i wneud penderfyniadau anodd megis dewis triniaeth feddygol neu ble i fyw. Mae wedi’i anelu at bobl nad oes ganddyn nhw berthnasau neu ffrindiau i siarad ar eu rhan.

Ble ydw i’n gallu cael rhagor o wybodaeth?

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw’r man cyswllt cyntaf am ymholiadau. Am gyngor a gwybodaeth ffoniwch yr Uned Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0845 330 2900.

Mae’r Adran Materion Cyfansoddiadol hefyd wedi cyhoeddi taflen sy’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol sydd ar gael i’w lawrlwytho isod:

Os hoffech gopïau caled o’r daflen e-bostiwch makingdecisions@dca.gsi.gov.uk neu ffoniwch yr Adran Materion Cyfansoddiadol ar 020 7210 0038/39

DEWIS Cymru

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?