Hyb Cymorth Cynnar
Mae llawer o wasanaethau ar gael i deuluoedd ym Merthyr Tudful. Mae gan yr Hyb Cymorth Cynnar swm sylweddol o wybodaeth am y gwasanaethau hyn a gall eich cyfeirio chi at y gwasanaeth cywir ar yr adeg gywir.
Mae’r Hyb yn gweithio gyda gwasanaeth allweddol y Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) i gefnogi teuluoedd sydd â mwy nag un angen am gymorth. Er enghraifft, efallai y bydd angen cymorth ar deuluoedd ynghylch cartrefu, cyllidebu, a rheoli ymddygiad plentyn/person ifanc. Os dyna’r achos, cynigir Gweithiwr Allweddol iddynt a fydd yn datblygu Cynllun Gweithredu gyda nhw ac yn eu cefnogi hyd nes eu bod wedi cyflawni’u nodau.