Gwybodaeth i bobl ifanc sy’n gadael neu sydd wedi gadael gofal
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ymroi ac yn ymdrechu’n gyson i wella deilliannau ar gyfer ein pobl ifanc sydd yn, neu wedi, gadael gofal. Fel rhieni corfforaethol, ein gwaith ni, fel unrhyw riant rhesymol, yw galluogi ein pobl ifanc i bontio’n llwyddiannus i fyd oedolion.
“Rhianta Corfforaethol” yw’r ffordd ffurfiol o ddweud bod yr Awdurdod Lleol yn gweithredu fel eich rhiant a bod ganddo gyfrifoldebau i’ch cefnogi a gofalu amdanoch yn y ffordd y byddai unrhyw riant rhesymol yn ei gwneud, hyd at 25 oed.
Gall gadael gofal fod yn broses frawychus iawn ac efallai eich bod yn poeni am lawer o bethau fel talu biliau, rheoli cyllideb a chadw tŷ ac efallai y bydd angen cymorth arnoch o hyd i gyflawni’ch nodau. Er enghraifft, cael swydd, dod o hyd i le i fyw, mynd i goleg neu brifysgol.
Byddwch yn gosod eich nodau personol yn y Cynllun Llwybr gyda chefnogaeth eich Gweithiwr Cymdeithasol a’ch Cynorthwyydd Personol. Eich cynllun chi yw hwn ac mae’n ymwneud â phethau sydd bwysicaf i chi.
Gall symud i annibyniaeth fod yn gyfnod anodd iawn ond hefyd yn amser cyffrous iawn. Byddwch yn dal i gael cymorth gan Gynorthwyydd Personol a Gweithiwr Cymdeithasol hyd nes i’r Gorchymyn Gofal ddod i ben pan fyddwch yn troi’n 18 oed, ond gallwch barhau i gael cymorth gan Gynorthwyydd Personol hyd nes ichi gyrraedd 25.
Dolenni Defnyddiol
Mae Voices From Care Cymru yn bodoli i wella bywydau plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal yng Nghymru trwy fod yn llais annibynnol ar gyfer y gymuned ofal.
Mae’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) yn darparu cymorth i’r rhai sy’n gadael gofal.
Cefnogaeth i’r rhai sy’n Gadael Gofal | Bwrsariaeth Gadawyr Gofal | NYAS
Bydd y ddolen isod yn mynd â chi i wefan Dewis Cymru sy’n cadw gwybodaeth am lawer o wasanaethau ledled Cymru.
Bydd y dolenni isod yn mynd â chi at gyngor ar fudd-daliadau:
Budd-daliadau - Cyngor ar Bopeth
Budd-daliadau Lles | Is-destun | LLYW.CYMRU
Bydd y dolenni isod yn mynd â chi at gyngor ar dai a digartrefedd:
Tai | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
01685 725000 – Tîm Atebion Tai
Cymorth os ydych yn ddigartref neu ar fin bod yn ddigartref | LLYW.CYMRU