Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rhanbarth Gwella Busnes

Crëwyd sefydliad Busnes newydd i gyflwyno llwyddiant pellach i ganol y dref yn y dyfodol a chefnogi cyfleoedd busnes.

Ym mis Gorffennaf pleidleisiodd busnesau Merthyr Tudful o blaid dod â phersbectif masnachol i reolaeth Canol y Dref trwy greu Rhanbarth Gwella Busnes. Nid yw’r rhanbarth yn gweithredu er elw ac mae wedi’i chyfarwyddo gan wirfoddolwyr o fusnesau sy’n talu trethi a’r nod yw gwella Merthyr Tudful fel lle i weithio, ymweld a chynnal busnes. Dechreuodd y sefydliad newydd yn swyddogol ar 1v Hydref ac mae eisoes wedi rhoi nifer o brosiectau ar waith i wella’r amgylchedd masnachu.

Mae canol tref Merthyr Tudful wedi wynebu nifer o heriau dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cystadleuaeth o barciau manwerthu y tu allan i’r dref a siopa ar y we. I sicrhau dyfodol disglair a pharhau yn gystadleuol dewiswyd dull modern o hyrwyddo a gwella’r ardal fasnachol. Datblygwyd Rhanbarthau Gwella Busnes mewn rhai o ganol trefi mwyaf llwyddiannus y DU, (mae dros 135 o’r rhanbarthau hyn ledled Prydain Fawr), ond Merthyr Tudful yw’r ail yn unig yng Nghymru.

Mae’r Rhanbarth Gwella Busnes newydd wedi ymrwymo i gyflwyno ystod o wasanaethau a fydd yn gwella lles busnesau a’u gweithwyr ac yn gwneud canol y dref yn lle glanach, diogelach a mwy pleserus i ymweld â hi. Bydd y prosiectau cyntaf yn canolbwyntio ar hyrwyddo canol y dref i ymwelwyr gan gyflwyno parcio am ddim bob dydd Sadwrn cyn Nadolig ym mis Rhagfyr (menter ar y cyd â’r Cyngor), a gwella diogelwch canol y dref.  Bydd prosiectau eraill wedyn yn cael eu cyflwyno trwy gydol y flwyddyn nesaf gan gynnwys cyfres o fentrau arbed costau i fusnesau ac ystod o welliannau i amgylchedd canol y dref. Bydd pob prosiect dan arweiniad pedwar ‘grŵp thema’ – Croesawu Merthyr Tudful, Hyrwyddo Merthyr Tudful, Ymgysylltu â Merthyr Tudful a Thrawsffurfio Merthyr Tudful – a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o fusnesau a sefydliadau canol y dref.

Bydd y gwasanaethau a gyflwynir gan y Rhanbarth Gwella Busnes yn ychwanegol at y rheini a ddarperir gan y cyngor, ac yn sgil hyn bydd hwb sylweddol i ganol y dref, o ran golwg a buddsoddiad. Yn ogystal â chyfraniadau gan fusnesau, mae’r Rhanbarth eisoes wedi cael £223,000 o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru sy’n creu cronfa gyfunol o tua £1 miliwn a fydd yn cael eli ail-fuddsoddi yng nghanol tref Merthyr Tudful dros y pum mlynedd nesaf.

 

Cysylltwch â Ni