Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyfnewidiad Cyntaf Cynllun Datblygu Lleol 2016–2031

Mae’n ofynnol yn ôl Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 fod y Cyngor yn monitro ac yn adolygu ei Gynllun Datblygu Lleol (CDLl). Mae CDLlau yn rhan hanfodol o’r system gynllunio a arweinir gan gynllunio, o dan bolisi cenedlaethol a osodir gan Lywodraeth Cymru.

Yn dilyn ystyriaeth o Adroddiad Adolygu yn Ebrill 2016 ynghylch y CDLl 2006 – 2021 mabwysiedig blaenorol, dechreuodd y Cyngor ar ei Gynllun Datblygu Lleol Amnewid Cyntaf  2016 – 2031 ym mis Awst 2016 yn dilyn cymeradwyaeth o’r Cytundeb Darparu.  

Cafodd CDLl Amnewid 2016 – 2031 Ymchwiliad Cyhoeddus yn 2019 a chafodd ei fabwysiadu gan y Cyngor ar 29 Ionawr 2020. Mae’r CDLl Amnewid yn disodli’r CDLl mabwysiedig blaenorol ac yn ffurfio sail ar gyfer penderfyniadau cynllunio defnydd o dir yn y Fwrdeistref Sirol, ac eithrio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae’r dudalen hon yn nodi gwybodaeth a dogfennau perthnasol wrth baratoi’r CDLl Amnewid.

Mabwysiadu’r CDLl Amnewid 2016 - 2031

Ar 29 Ionawr 2020 gwnaeth y Cyngor fabwysiadu’r CDLl Amnewid 2016-2031 yn swyddogol. Y dogfennau i’r Cynllun Mabwysiedig yw:

Gellir dod o hyd i fanylion pellach ynghylch Mabwysiadu’r CDLl Amnewid yn yr Hysbysiad Mabwysiadu a’r Datganiad Mabwysiadu.

Gallwch hefyd weld copi o'r Cynllun a Fabwysiadwyd ym mhrif swyddfeydd y Cyngor yn y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN ac yn y lleoliadau a restrir isod yn ystod oriau agor arferol:

  • Swyddfeydd y Cyngor, Uned 5, Parc Busnes y Triongl, Pentre-bach, CF48 4TQ
  • Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful, Y Stryd Fawr, Merthyr Tudful, CF47 8AF
  • Hwb Llyfrgell Rhydycar, Canolfan Hamdden Merthyr Tudful, Merthyr Tudful, CF48 1UT
  • Llyfrgell Treharris, Stryd Perrott, Treharris, Merthyr Tudful, CF46 5ET
  • Llyfrgell Dowlais, Stryd yr Eglwys, Dowlais, Merthyr Tudful, CF48 3HS
  • Llyfrgell Gymunedol Aber-fan, Heol Pantglas, Aber-fan, CF48 4QE

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â chyhoeddi a mabwysiadu'r CDLl Amnewid, gyrrwch e-bost i devplanning@merthyr.gov.uk neu ffoniwch 01685 726279 a gofyn am gael siarad ag aelod o Dîm y CDLl.

 

Camau Paratoi Cynllun a Gyrhaeddwyd hyd yma

Adroddiad Adolygu CDLl 2006-2021:

Dechreuodd adolygiad llawn o CDLl Mabwysiedig 2026-2021 ym mis Mai 2015 gan arwain at Adroddiad Adolygu a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn ar 20 Ebrill 2016. Argymhelliad yr Adroddiad Adolygu oedd paratoi CDLl Amnewid. Gweler Adroddiad Adolygu CDLl 2006-2021. 

Cytundeb Cyflenwi:

Cafodd y Cytundeb Darparu (CD) cyntaf ar gyfer paratoi CDLl Amnewid Cyntaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful  2016 - 2031 ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn ar 13 Gorffennaf 2016 a chytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru ar 10 Awst 2016. Mae’r CD yn cynnwys amserlen ar gyfer paratoi'r CDLl Amnewid a Chynllun Cynhwysiant Cymunedol (CCC) sydd yn nodi sut a phryd y gall rhanddeiliaid a’r gymuned gyfrannu at broses baratoi’r cynllun. Gweler y Cytundeb Darparu.

Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol:

Gwahoddodd y Cyngor geisiadau ar gyfer Safleoedd Ymgeisiol i’w cynnwys yn y CDLl Amnewid o 30 Awst 2016 i 2 Rhagfyr 2016. Cafodd 98 o safleoedd  ymgeisiol eu cyflwyno ar gyfer ystyriaeth, naill ai ar gyfer eu datblygu neu eu diogelu, yn ystod y cyfnod hwn. Rhoddodd yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffafrir a gafodd ei gynnal rhwng 14 Gorffennaf 2017 a 6 Hydref 2017 gyfle ychwanegol i gyflwyno safleoedd. Cafodd 5 safle pellach eu cyflwyno a’u cynnwys yng Nghofrestr Safleoedd Ymgeisol Hydref 2017.

Mae’r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn cynnwys mapiau safle unigol o’r 103 safle a gyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth. Olynir pob map gan Werthusiad Cynaliadwyedd  (GC) a’i brif bwrpas yw dynodi effeithiau cynaliadwyedd posib y safleoedd sydd ar y gofrestr.

Gweler copi o Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol Hydref 2017.

Gwahoddwyd sylwadau ar Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol Mehefin 2017 yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus y Strategaeth a Ffafrir ac ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol diwygiedig o 13 Hydref 2017 i 24 Tachwedd 2017. Gweler y sylwadau ar Safleoedd Ymgeisiol

Strategaeth a Ffefrir:

Yn dilyn cymeradwyo’r Cytundeb Darparu, dechreuodd y Cyngor baratoi ar gyfer Strategaeth a Ffafrir (SaFf.) Mae’r SaFf yn amlinellu cyfeiriad CDLl Amnewid Merthyr Tudful 2016-2031. Mae’n gosod diagram ag allwedd, strategaeth ac amcanion. Gan ei fod ar gyfer cynllun amnewid, roedd hefyd yn cynnwys polisïau manwl fyddai fel arfer yn cael eu cynnwys yn ystod cam y Cynllun Adnau. Gweler y Strategaeth a Ffafrir

Gwnaeth y Cyngor ymgynghori ar Strategaeth a Ffefrir CDLl Amnewid y Cyngor a’r dogfennau a oedd yn cyd-fynd (a elwir hefyd y cam ymgynghori cyn adnau) o 14 Gorffennaf tan 6 Hydref 2017. Rhoddwyd ystyriaeth i’r holl sylwadau priodol a gyflwynwyd wrth baratoi’r Cynllun Adnau, a gellir gweld canlyniadau hyn yn Adroddiad Ymgynghoriad Cychwynnol CDLl Mehefin 2018 (gweler uchod).

Cynllun Adnau:

Yn dilyn ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffafrir yn 2017 gwnaeth y Cyngor baratoi Cynllun Adnau Amnewid. Gwnaeth ymgynghoriad cyhoeddus 6 wythnos am y Cynllun Adnau Amnewid ddigwydd o ddydd Llun 30 Gorffennaf tan ddydd Llun 10 Medi 2018. Caiff y dogfennau Cynllun Adnau a’r papurau cefndir cefnogol eu rhestru uchod.

Mae’r  Gofrestr Sylwadau Cynllun Adnau Amnewid (Tachwedd 2018) yn darparu copi o sylwadau a wnaed yn briodol a gafodd eu derbyn gan y Cyngor yn ystod cyfnod ymgynghoriad cyhoeddus y Cynllun Adnau. Mae copïau caled o’r Gofrestr Sylwadau ar gael i’w gweld yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Uned 5, Parc Busnes Triongl, Pentrebach, Merthyr Tudful, CF48 4TQ ac yn yr holl leoliadau Adnau ar ofyn yn sgil maint y gofrestr. Os ydych am weld y gofrestr yn y lleoliadau hyn cysylltwch â’r swyddogion yn y Tîm CDLl gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

Cyflwyno'r CDLl Amnewid i'w Archwilio:

Cafodd y CDLl Amnewid a’r ddogfennaeth ategol eu “cyflwyno” i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer Archwiliad Annibynnol ddydd Llun, 21 Ionawr 2019.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar nifer gyfyngedig o “Newidiadau â Ffocws” rhwng 21 Ionawr a 4 Mawrth 2019. Cyflwynwyd copi o'r sylwadau a ddaeth i law er ystyriaeth Llywodraeth Cymru a'r Arolygiaeth Gynllunio ar 18 Mawrth 2019. 

Yn dilyn derbyniad ffurfiol y CDLl a gyflwynwyd ar 20 Mawrth 2019, mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi penodi Mr Paul Selby BEng (Anrh) MSc MRTPI i gynnal yr “Archwiliad Cyhoeddus” annibynnol er mwyn asesu cadernid y CDLl. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am yr Archwiliad Cyhoeddus ar Wefan yr Archwiliad.

Adroddiad yr Arolygydd:

Ar 17 Rhagfyr 2019 derbyniodd y Cyngor Adroddiad yr Arolygydd ar yr Archwiliad i Gynllun Datblygu Lleol Amnewid Merthyr Tudful (CDLl) 2016 – 2031. Gwnaeth yr Arolygydd a benodwyd, Mr Paul Selby BEng (Anrh) MSc MRTPI, ganfod, yn amodol ar y newidiadau a argymhellwyd, fod y CDLl Amnewid yn gadarn. Y dogfennau perthnasol yw:

Ar ôl hynny cafodd adroddiad ei gyflwyno i’r Cyngor ar 29 Ionawr 2020, er mwyn mabwysiadu CDLl Amnewid 2016 - 2031 yn ffurfiol.

 

Os ydych am wybodaeth ynghylch y CDLl cysylltwch â’r Tîm Polisi Cynllunio:

Uned 5, Parc Busnes Triongl
Pentrebach
Merthyr Tudful
CF48 4TQ
Ffon:  01685 725000
E-bost: devplanning@merthyr.gov.uk

Cysylltwch â Ni