Ar-lein, Mae'n arbed amser
Casglu gwastraff masnachol – Gofynion Cyfreithiol
Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid
O 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd yn gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i sortio eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.
Mae hefyd yn gymwys i'r holl gasglwyr a phroseswyr gwastraff a deunydd ailgylchu sy'n rheoli gwastraff gweithleoedd sy'n debyg i wastraff cartrefi.
Cyfrifoldeb Gofal
Mae rheoliadau cyfrifoldeb gofal a nodir yn a.34 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn effeithio ar BOB busnes. Mae’r rheoliadau yn gosod cyfrifoldeb cyfreithiol ar fusnesau i sicrhau:
- bod eich gwastraff yn cael ei storio, ei drafod, ei ailgylchu neu ei waredu mewn modd sy’n ddiogel a chyfreithiol
- bod eich gwastraff yn cael ei storio, ei drafod, ei ailgylchu neu ei waredu gan gludydd cofrestredig
- eich bod yn cofnodi trosglwyddiadau gwastraff rhwng eich busnes a busnesau eraill trwy ddefnyddio nodyn trosglwyddiad gwastraff
Nodyn Trosglwyddiad Gwastraff
Mae Nodyn Trosglwyddiad Gwastraff (NTG) yn ddogfen gyfreithiol sy’n rhaid ei chael wrth drosglwyddo gwastraff rhwng deiliaid, cludyddion gwastraff a lleoliadau gwaredu gwastraff. Pwrpas NTG yw caniatáu i eraill sy’n trafod eich gwastraff i wybod pa fath o wastraff ydyw fel y gallant ei reoli mewn modd sy’n ddiogel a phriodol. Dylech gadw pob nodyn trosglwyddiad gwastraff, wedi eu harwyddo gennych chi a’r cludydd am o leiaf dwy flynedd.
Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle
Mae Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi gosod yr is-ddeddfwriaeth sy'n ofynnol i weithredu'r diwygiadau Ailgylchu yn y Gweithle gerbron Senedd Cymru.
Bydd y rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i weithleoedd busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector wahanu deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu yn yr un modd ag y mae’r rhan fwyaf o ddeiliaid tai Cymru eisoes yn ei wneud.
Mae dadl ynghylch y diwygiadau Ailgylchu yn y Gweithle wedi’i threfnu yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Tachwedd, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, byddant yn dod i rym ar 6 Ebrill 2024.
Mae’r Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog ar gael yma: Datganiad Ysgrifenedig: Gosod Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle (7 Tachwedd 2023) | LLYW.CYMRU
Gellir cael gafael ar asedau'r ymgyrch yma: Economy | Welsh Government Communication Services
Asedau Ymgyrch Plastig Untro: Welsh Government Communications Services Digital Toolkit
Asedau Ailgylchu yn y Gweithle; Welsh Government Communications Services Digital Toolkit
Gwefan yr ymgyrch yma:
www.llyw.cymru/ailgylchuynygweithle
Cynnwys cymdeithasol i’w rannu o:
X: @WGClimateChange
Facebook: Climate Action Wales / Gweithredu ar Hinsawdd Cymru | Facebook
Ysbwriel a’ch cyfrifoldeb fel busnes
Pan ellir olrhain problem ysbwriel i ambell fath o fusnes tebyg i sefydliadau ‘bwyd ar frys’, gwerthwyr symudol neu stondinau mewn marchnad, gall awdurdod lleol gymryd camau addas i orfodi meddiannydd neu berchennog y busnes neu’r safle i lanhau ysbwriel a gweithredu mesurau i rwystro’r tir rhag cael ei hagru eto. Gall methiant i gydymffurfio arwain at Hysbysiad Cosb Benodedig neu at gostau cwblhau’r gwaith.
Tipio Anghyfreithlon
Mae Tipio Anghyfreithlon yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio’r weithred o adael sbwriel neu wastraff ar unrhyw dir nad oes ganddo drwydded i dderbyn ysbwriel. Os yw’r gwastraff yn beryglus ai peidio, mae gadael unrhyw wastraff yn anghyfreithlon. Gall arwain at garchariad o 12 mis a dirwy o hyd at £50,000.
Gellir lawr lwytho Deddf Amddiffyn Amgylchedd 1990 a Deddf Cymdogaethau Glan a’r Amgylchedd 2005 ar dudalen Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI.) Gellir lawr lwytho rhannau unigol o’r Ddeddf o Wefan Defra. Gyda phob casgliad, disgwylir i’r masnachwr gwblhau cytundeb a nodyn throsglwyddiad gwastraff cyn y gellir dechrau ar y gwasanaeth.
Cyfrifoldeb Gofal Gwastraff Masnachol
Mae’n ofynnol, yn gyfreithiol fod pob gwastraff a gynhyrchir gan fusnes neu weithrediad masnachol yn cael eu trin mewn modd addas. Fel perchennog busnes, chi sy’n gyfrifol am gynwysyddion addas ac am gasglu holl wastraff y busnes. A hynny er mwyn cydymffurfio â’ch cyfrifoldeb gofal. (Gweler Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.)
Mae gwastraff masnachol yn golygu unrhyw wastraff sy’n cael ei gynhyrchu gan y mathau canlynol o sefydliadau:
- Unrhyw fath o fusnes neu sefydliad sy’n gwneud elw (yn cynnwys canghennau masnachol o elusennau)
- Siopau
- Swyddfeydd
- Colegau
- Cartrefi’r Henoed
- Ysbytai
Mae gan y sefydliadau hyn Gyfrifoldeb Gofal cyfreithiol er mwyn sicrhau bod eu gwastraff yn cael eu
- storio
- casglu
- gwaredu neu ailgylchu mewn modd sy’n briodol
Am ragor o wybodaeth yn ymwneud â’ch Cyfrifoldeb Gofal, cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru.
Os canfyddir gwastraff eich busnes wedi ei adael yn anghyfreithlon yn rhywle, gallech gael eich erlyn a’ch dirwyo am hyd at £50,000 neu wynebu deuddeg mis o garchar.
Deddfwriaeth sydd I dod, o dan mae Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016 yn galw ar fusnesau I gyflwno eu gwastraff, ar wahan. Mae hefyd yn offynnol I gasglwy gwastraff fel cwmniau rheolig gwastraff I gasglu deunyddiau penodol mewn casgliad ar wahan. Mae’n rhaid I chi gyflwyno’ch ailgylchu, ar wahan a pheidio gosod deunyddiau i’w hailgylchu yn eich bin gwastraff cyffredinol.