Ar-lein, Mae'n arbed amser

Arweiniad ar lygredd aer

Deddf Aer Glân 1993

Cyflwynwyd y Ddeddf Aer Glân ym 1993 i amddiffyn yr amgylchedd ac ansawdd yr aer rydym yn ei anadlu. Mae’n darparu ystod eang o reoliadau megis y rheini sy’n ymdrin ag allyriadau mwg ac uchder simneiau.

Mwg Tywyll

Mae’n drosedd achosi neu ganiatáu allyrru mwg tywyll o simnai neu ffliw mewn adeilad diwydiannol neu fasnach. Mae hyn hefyd yn gymwys i losgi deunyddiau ar safle sy’n perthyn i chi neu safle rydych yn gweithio arno megis safle adeiladu neu ddymchwel neu dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth neu arddwriaeth fasnachol. Os ydych yn ystyried llosgi deunyddiau (gan gynnwys safle clirio, dymchwel neu adeiladu) rhaid i chi beidio â chynhyrchu mwg tywyll neu ddu.

Os ydych yn bwriadu llosgi gwastraff rheoledig dylech gysylltu â’r Awdurdod Lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn gyntaf.

Nid oes angen i’r Cyngor weld yr allyriadau mwg tywyll i gymryd camau yn eich erbyn: mae tystiolaeth o losgi’r deunyddiau y mae peryg y gall arwain at fwg tywyll yn ddigon. Trwy hyn mae’r gyfraith yn ceisio atal pobl rhag creu mwg tywyll yn y nos a defnyddio diffyg tystiolaeth weledol fel amddiffyniad!

Llosgi Ceblau

Dan Adran 33 Deddf Aer Glân 1993 mae’n drosedd llosgi insiwleiddio o gebl mewn ymgais i gyrraedd y metel oni bai bod y gweithgaredd wedi’i ganiatáu dan Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999

Ardaloedd Rheoli Mwg

Bwriad y rhain yw rheoli llygredd mewn ardaloedd lle defnyddir glo fel y prif danwydd domestig. Nid oes ardaloedd rheoli mwg ar hyn o bryd ym Merthyr Tudful.

Uchder Simneiau

Mae rheoli uchder simneiau yn galluogi’r Cyngor i ystyried nifer o ffactorau perthnasol wrth bennu uchder simnai.

Dan Adran 14 y Ddeddf, oni chymeradwyir uchder y simnai gan yr awdurdod lleol a chedwir at unrhyw amodau sy’n gysylltiedig â’r gymeradwyaeth, mae’n drosedd achosi neu ganiatáu’n fwriadol i foeler/ffwrnais gael ei defnyddio i:

  • losgi tanwydd maluriedig
  • llosgi unrhyw solet arall ar gyfradd o 45.4kg neu fwy yr awr
  • llosgi unrhyw hylif neu nwy ar gyfradd gyfwerth â 366.4 kW neu fwy

Rhaid i’r Cyngor bennu uchder cywir y simnai i atal llygredd ar lefel ddaear rhag dod yn broblem i iechyd neu beri niwsans. Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno gosod boeler neu ffwrnais ofyn am gymeradwyaeth y Cyngor yn gyntaf. Mae ffurflen gais ar gael i Adran Iechyd y Cyhoedd trwy un o’r dulliau isod. Rhaid i gais am gymeradwyo uchder simnai gynnwys gwybodaeth ddigonol i allu cynnal y cyfrifiadau angenrheidiol.

Dan y Ddeddf rhaid i’r Cyngor ystyried cais i gymeradwyo uchder simnai ar gyfer ffwrnais neu foeler a rhoi penderfyniad ysgrifenedig ymhen 28 diwrnod. Efallai bydd angen cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladau a/neu ganiatâd cynllunio ar y boeler/ffwrnais felly mae’n bosib y bydd angen i chi gysylltu â'r Adran Rheoli a Datblygu Adeiladu hefyd.

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?