Ar-lein, Mae'n arbed amser
Trwydded Cyflogi Plant
Mae’r Gwasanaeth Lles Addysg yn gyfrifol am fonitro a dosbarthu trwyddedau cyflogi plant ym Merthyr Tudful.
Mae plentyn wedi’i gyflogi os yw’n helpu mewn unrhyw fasnach neu waith a wneir er elw ni waeth a yw’r plentyn yn cael ei dalu neu’i wobrwyo. Mae hyn hefyd yn berthnasol os y rhiant yw’r cyflogwr.
Pwy sy angen trwydded?
Mae angen trwydded ar bob plentyn o oedran ysgol orfodol h.y. 16 oed neu iau, i’w galluogi i wneud unrhyw fath o waith, â thâl neu heb dâl , rhan amser neu amser llawn. Fodd bynnag, rhaid i blant fod yn 13 oed i wneud unrhyw waith rhan amser.
Ble all plant weithio ym Merthyr Tudful?
Mae ein his-ddeddfau lleol yn gosod meysydd cyflogaeth a ganiateir a’r meysydd gwaith yr ystyrir yn ‘anaddas’ i blant dan 16 oed.
Ni all unrhyw blentyn o unrhyw oed gael ei gyflogi:
- mewn sinema, theatr, disgo, neuadd ddawns na chlwb nos (oni bai bod trwydded i berfformio yno);
- yn gwerthu neu’n cyflenwi alcohol ac eithrio mewn cynwysyddion wedi’u selio;
- yn dosbarthu llaeth;
- yn dosbarthu olew tanwydd;
- mewn cegin fasnachol;
- yn casglu neu’n didoli sbwriel;
- mewn unrhyw waith sy’n fwy na thri metr uwchlaw lefel y ddaear, neu yn achos gwaith mewnol, fwy na thri metr uwchlaw lefel y llawr;
- mewn cyflogaeth sy’n cynnwys bod yn agored yn niweidiol i gyfryngau ffisegol, biolegol neu gemegol;
- yn casglu arian neu’n gwerthu neu’n canfasio wrth y drws;
- mewn gwaith sy’n cynnwys bod yn agored i ddeunydd oedolion neu mewn sefyllfaoedd sy’n anaddas i blant oherwydd hyn;
- yn gwerthu dros y ffôn;
- mewn unrhyw ladd-dy neu yn rhan o unrhyw siop cigydd neu safle arall sy’n ymwneud â lladd da byw, bwtsiera, neu baratoi sgerbydau neu gig i’w werthu;
- fel cynorthwyydd mewn ffair neu arcêd adloniant neu mewn unrhyw safle arall a gaiff ei ddefnyddio i adlonni’r cyhoedd trwy ddefnyddio peiriannau awtomatig, gemau hap a siawns neu sgil neu ddyfeisiau tebyg;
- mewn gofal personol preswylwyr mewn unrhyw gartref gofal preswyl neu gartref nyrsio.
Sut i wneud cais am drwydded gwaith
Cyfrifoldeb y cyflogwr yw gwneud cais am drwydded gwaith. Gellir gwneud hyn trwy lawr lwytho a llenwi’r ffurflen gais isod yn unig. Fel arall gall cyflogwyr gysylltu â’r Gwasanaeth Lles Addysg ar 01685 724620 neu educationwelfare@merthyr.gov.uk am ragor o gyngor ac arweiniad.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion am bryd ac am ba hyd y gall plant weithio ar gael yn y llyfrynnau arweiniad canlynol:
Cyflogi plant – Canllaw i Rieni a Gofalwyr
Cyflogi plant – Canllaw i Gyflogwyr