Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trwydded Sefydliadau Rhyw

Mae’n ofynnol bod Busnesau Rhyw yn cael eu trwyddedu gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982.

Gall Busnes Rhyw fod yn Siop Ryw neu’n Sinema Rhyw a allai fod ag angen Trwydded Adeilad o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

Mae siop ryw yn adeilad a ddefnyddir ar gyfer busnes sy’n cynnwys peth sylweddol o werthiant o eitemau rhyw. Mae sinema rhyw yn adeilad a ddefnyddir i raddau sylweddol ar gyfer dangos ffilmiau sydd yn ymwneud yn bennaf, neu’n berthnasol i, neu sydd â’r bwriad o ysgogi gweithgaredd rhywiol.

Y mae’r gyfraith yn diffinio’r modd y caiff cais ei wneud, sy’n cynnwys hysbysiad am y cais yn y wasg leol ac arddangos hysbysiad y tu allan i’r adeilad am gyfnod penodol o amser i roi cyfle i’r sawl sy’n cerdded heibio wneud sylwadau erbyn y dyddiad cau statudol.

Wrth ystyried cais am drwydded Busnes Rhyw gallai’r Cyngor Bwrdeistref Sirol ddefnyddio’r meini prawf canlynol yn unig:-

  • Addasrwydd yr Ymgeisydd
  • A yw’r person yn ymgeisio ar ran rhywun arall
  • Lleoliad a sefyllfa’r adeilad mewn perthynas ag adeiladau eraill yn yr ardal
  • A yw’r nifer o weithleoedd rhyw yn y cyffiniau yn hafal â neu yn fwy na’r nifer y mae’r Cyngor yn ei ystyried i fod yn addas ar gyfer yr ardal

Eich Hawl i Apelio

  • Gall unrhyw berson a gaiff ei dramgwyddo gan wrthodiad trwydded neu gan unrhyw amod y mae’r drwydded yn amodol arni, apelio i’r Llys Ynadon.
  • Gellir apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed yn y Llys Ynadon yn Llys y Goron ond mae penderfyniad Llys y Goron yn derfynol.

Troseddau a Chosbau

  • Mae unrhyw un sy’n gweithredu Busnes Rhyw heb drwydded neu sy’n methu â chydsynio ag amodau trwydded neu sy’n rhoi mynediad i bersonau o dan 18 oed yn cyflawni trosedd.
  • Gall cosb ar ôl erlyn amrywio o £1,000 i £20,000.

Busnes Rhyw

Cyrhaeddodd Mesur yr Heddlu a Throsedd 2009 Gydsyniad Brenhinol ar 12 Tachwedd 2009. Mae Cymal 26 y Ddeddf hon yn gwneud darpariaethau ynghylch ailddosbarthiad dawnsio lap a lleoliadau tebyg fel Busnesau Rhyw.

Cyflwynodd y Mesur gategori newydd o Fusnes Rhyw o dan Atodlen 3 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 o’r enw ‘Lleoliad Busnes Rhyw’. Mae’r categori newydd hwn yn cynnwys lleoliadau sy’n darparu ‘adloniant perthnasol’.

Caiff ‘adloniant perthnasol’ ei ddiffinio fel unrhyw berfformiad byw neu arddangosiad o noethni sy’n anwybyddu elw ariannol, dylid tybio’n rhesymol mai ei unig ddiben a’i brif ddiben yw ysgogi unrhyw aelod o’r gynulleidfa yn rhywiol (boed ar lafar neu drwy unrhyw foddau eraill).

Eithriadau

Ni fydd angen i leoliadau sy’n darparu ‘adloniant perthnasol’ ar nifer cyfyngedig o achlysuron y flwyddyn ymgeisio am drwydded hyd yn oed os yw’r Cyngor yn mabwysiadu’r darpariaethau. Ni ddylai hyn fod ddim mwy nac 11 achlysur mewn cyfnod o 12 mis gyda chyfnod o 1 mis o leiaf rhwng pob achlysur.

Mabwysiadu

Bydd yr angen i gael trwydded ond yn codi os yw’r Awdurdod Lleol yn mabwysiadu yn ffurfiol y darpariaethau sy’n gynwysedig yn Neddf 1982. Ar 23 Hydref 2002 mabwysiadodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Atodlen 3 Deddf 1982 i drwyddedu siopau rhyw a sinemâu rhyw, fodd bynnag mae’n parhau’n ofynnol bod yr awdurdod yn ail-fabwysiadu’r darpariaethau i ddechrau’r broses o drwyddedu clybiau dawnsio lap.

Rhybydd Mabwysiadu

HYSBYSIR GYDA HYN fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar 8 Rhagfyr 2010 wedi pasio penderfyniad yn ôl ymarferiad o’i bwerau o dan Adran 2 Deddf (Darpariaethau Amrywiol) Llywodraeth Leol 1982, i fabwysiadu Atodlen 3 y Ddeddf, fel a ddiwygiwyd gan Adran 27 Deddf yr Heddlu a Throsedd 2009, i ehangu rheoliad busnesau rhyw, sef siopau rhyw a sinemâu rhyw, gan gynnwys lleoliadau adloniant rhyw. Daw’r penderfyniad hwn i rym ar 1 Chwefror 2011.

Effaith cyffredinol hyn yw ei fod yn ofynnol bod unrhyw un sydd am weithredu siop ryw, sinema rhyw neu leoliad adloniant rhyw o fewn Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cael trwydded oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.